Gwachel, gwachel, rwyd y temtwr,
Sy'n dy ladd â gwers y swynwr;
Ac na ddos yn amser clefyd,
At y diawl i geisio iechyd.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Yn dy drallod tost a'th wewyr;
Ac na chytgan megis pagan,
Geisio help trwy swyn gan Satan.
O cenhada Duw i'r cythrel,
Dreio'th ffydd trwy boen a thrafel;
Bydd ddioddefgar, cymer gysur,
Nes del Duw i laesu'th ddolur.
Er i Dduw genhadu Satan,
Glwyfo Job a dwyn ei arian;
Nid aeth Job at neb o'r swynwyr,
Ond at Dduw i geisio cysur.
At Dduw y rhedodd Hezekias,
Naaman, Tobit, Dafydd, Jonas,
Yn eu blinder i gael swcwr,
Nid at ddewin, nid at swynwr.
Duw sy'n erchi mewn cyfyngdwr,
Alw arno ef am swcwr,
Ac mewn trafel tost a blinder,
I fynd at Grist i gael esmwythder.
Dwl yw'r dyn a red at swynwr,
Yn ei flinder, i gael swcwr;
Fel pe byddai'r diawl barotach,
Na Duw mawr, i helpu'r afiach.
Nid gwaeth mynd mewn cyflwr cas,
At y diawl nag at ei was:
Y diawl ei hun sy'n rhoi, fel twyllwr,
Yr help a gaffech gan y swynwr.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/115
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon