Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Crist yw'r Bugail, minnau ei ddafad,
Crist heb gysgu sydd i'm gwyliad;
Pwy yw'r blaidd all ddwyn o'i eglwys
Un o'r defaid a ddewisiwys?

Ni all cythraul ddwyn un mochyn,
Heb gennad Crist, oddiar baganyn:
B'wedd gall ef ddwyn un ddalad,
O gorlan Crist, heb gael ei gennad?

Duw roes imi ei Lân Yspryd,
Yn brid ernes o'r gwir fywyd;
Duw wna naill ai colli ei ernest,
Ai cwpla'i bromeis à mi yn onest.

Duw bromeisiodd imi fywyd,
Duw a'i seliodd im â'i Yspryd;
Gwedi selio imi'r fargen,
Gwn na newid Duw drachefen.

Crist sy'n 'Ffeiriad yn dragywydd,
Yn gweddïo drosom beunydd,
Er na ffaelio'n ffydd un amser:
Nid aiff gweddi Crist yn ofer.

Ni wrthyd Duw mo'r rhai ddewisiwys,
Fe geidw rhai'n tu fewn i'w eglwys;
Fe'u cynnal hwy â'i fraich yn nerthol,
Ni chwymp un oddi wrtho'n hollol.