Mwrthwl dur i bario'n cnape,
Bwyall lem i dorri'n ceincie,
Rheol gymwys i'n trwsiadu,
Ydyw'r Gair, ac athro i'n dysgu.
Udgorn pres i'n gwysio i'r frawdle,
Cloch i'n gwawdd i wella'n beie,
Herawld yn proclaimio'n heddwch,
Ydyw'r Gair, a'n gwir ddiddanwch.
Y Gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi
Ein holl frychau, a'n holl frynti,
Ac yn erchi in' eu gwella,
Tra fo'r dydd a'r goleu'n para.
Y Gair yw'r had sy i'n hadgenhedlu
Yn blant i Dduw, yn frodyr Iesu,
Yn deulu'r nef, yn deml i'r Yspryd,
Yn wir drigolion tir y bywyd.
Heb y Gair nid wy'n dychymyg
Pa wedd y bydd un dyn cadwedig;
Lle mae'r Gair yn benna' o'r moddion
Ordeiniodd Crist i gadw'r Cristion.
Heb y Gair ni ellir 'nabod
Duw, na'i natur, na'i lân hanfod,
Na'i Fab Crist, na'r sanctaidd Yspryd,
Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.
Heb y Gair ni ddichon undyn
'Nabod 'wyllys Duw, na'i ganlyn,
Na gwir ddysgu'r ffordd i addoli,
Nes i'r Gair roi iddo oleuni.
Heb y 'Sgrythyr ni ddealla
Undyn byth ei gwymp yn Adda,
Na'i drueni, na'i ymwared
Trwy Fab Duw o'r fath gaethiwed.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/19
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon