Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heb y Gair ni all neb gredu
Yng Nghrist Iesu fu'n ei brynu;
Can's o wrando'r Gair yn brudd
Y mae i Gristion dderbyn ffydd.

Heb y Gair nid yw Duw'n arfer
Troi un enaid o'i ddiffeithder;
Ond trwy'r Gair mae'n arferedig
Droi eneidiau fo cadwedig.

A'r Gair y trodd yr Apostolion,
Y Cenhedloedd yn Gristnogion;
Heb y Gair peth dieithr yw
Troi pechadur byth at Dduw.

A phregethiad un Efengyl
Y trodd Peder gwedi tair-mil
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd yr Iesu.

Trwy had y Gair yr adgenhedla
Yspryd Duw'r pechadur mwya,
Ac a'i gwna yn oreu ei ryw,
Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.

Y Gair sy'n cynnwys ynddo'n helaeth,
Faint sydd raid i iechydwriaeth:
Chwilia hwn, a chais e'n astud,
Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.

Crist sy'n erchi it' lafurio
Am y Gair, a'th draed a'th ddwylo,
Mwy nag am y bwyd a dderfydd,
O chwenychi fyw'n dragywydd.

Fel y llef dyn bach am fronne,
Fel y cais tir cras gafode,
Fel y brefa'r bydd am ffynnon,
Llef am eiriau'r 'Fengyl dirion.