Tynn i Loeger, tynn i Lundain,
Tynn dros for tu hwynt i Rufain,
Tynn i eitha'r byd ar dreigyl,
Nes y caffech gwrdd â'r 'Fengyl.
Blin it' weld yr haul a'r glaw,
Mewn plwyfe o ddeutu, yma a thraw,
A'th blwyf dithe (peth yscymun),
Heb na haul na glaw trwy'r flwyddyn.
Oni bydd un bregeth ddurfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Dos i maes i'r plwyf lle i bytho,
N'âd un Sabboth heb ei gwrando.
Pan fo eisie ar dy fola,
Di ai i'r gell i geisio bara;
Pan fo newyn ar dy enaid,
Nid ai i unlle i geisio ei gyfraid.
Beth y dâl it' borthi'r corffyn,
O bydd d'enaid marw o newyn?
A all dy gorff di gael difyrrwch,
Pan fo d'enaid marw o dristwch?
Drwg it' ladd y corff a newyn,
Eisie bara tra fo'r flwyddyn;
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd,
Eisie ei borthi â bara'r bywyd.
Llef gan hynny ar y 'ffeiriaid,
Am roi bwyd i borthi d'enaid,
'R wyt ti'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Pâr i nhwyntau dorri'th newyn.
Gwrando'r Gair o enau'r 'ffeiriad,
Fel o enau Crist dy Geidwad,
Crist a roes awdurdod iddo,
I'th gynghori a'th rybuddio.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/22
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon