O' par Crist i 'ffeiriad noethlyd
Dy rybuddio i wella'th fywyd,
'Rwyt ti'n rhwym i wneuthur archo,
Pe doe asen i'th rybuddio.
Pe doi Suddas i bregethu
'Fengyl Crist, ti ddylid ei dysgu,
Fe all y 'Fengyl gadw d'ened,
Er i'th athro dost gamsynied.
Os dy fugail sydd anweddaidd,
A'i athrawiaeth yn Gristnogaidd,
Dysg y wers, na ddysg ei arfer,
Gochel feiau Paul a Pheder.
Na wna bris o'i wedd na'i wisgiad,
P'un ai gwych ai gwael fo'i ddillad;
Nid llai grym y 'Fengyl gyngan,
O'r siaced ffris na'r gasog sidan.
Cymer berl o enau llyffan,
Cymer aur o ddwylo aflan,
Cymer win o botel fudur,
Cymer ddysg o ben pechadur.
Gwrando 'Fengyl, Crist yw i hawdwr,
Pa fath bynna' fo'r pregethwr.
Prisia'r Gair, na phrisia'r gennad,
Crist ei hun a'i helodd atad.
Cadw'r geiriau yn dy galon,
N'ad eu dwyn gan gigfrain duon;
Had yw'r Gair i'th adgenhedlu,
Os i'r galon y derbyni.
Dyfal chwilia di'r 'Sgrythyre,
Darllen Air Duw nos a bore;
Dilyn arch y Gair yn ddeddfol,
Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/23
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon