Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r Bibl bach yn awr yn gyson,
Yn iaith dy fam, i'w gael er coron,
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad i'th gadw.

Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan:
Gwell dodrefnyn yn dy lety,
Yw'r Bibl bach na dim a feddi.

Fe ry gonffordd, fe ry gyngor,
Fe ry addysg gwell na doctor;
Fe ry lwyddiant a diddanwch,
Fe ry it lawer o ddedwyddwch.

Fe ry fara i borthi d'enaid,
Fe ry laeth i fagu'th weiniaid,
Fe ry win i'th lawenhau,
Fe ry eli i'th iachau.

Pwy na phryne y Bibl sanctaidd,
Sy mor werthfawr ac mor g'ruaidd?
Pwy na werthe'i dŷ a'i dyddyn,
I bwreasu'r fath ddodrefnyn?

Dyma'r perl y fynn yr Iesu
I bob Cristion doeth i brynu,
Fel y marsiant call a werthe,
I brynu hwn, faint oll a fedde.

Gan i Dduw roi i ni'r Cymry,
Ei Air sanctaidd i'n gwir ddyscu,
Moeswch i ni fawr a bychain,
Gwympo i ddyscu hwn a'i ddarllain.

Moeswch i ni, wŷr a gwragedd,
Gyd â'n gilydd heb ymhowedd,
Brynu bob un iddo lyfyr,
I gael darllain geiriau'r 'Sgrythyr.