Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'r cobleriaid a'u morwynion,
A'r rhai gwaetha' 'mysc y Saeson,
Bob yr un â'r Bibl ganthynt,
Ddydd a nos yn darllain ynddynt.

Mae'r penaethiaid gyda ninnau,
A'u tableri ar eu bordau,
Heb un Bibl, nac un plygain,
Yn eu tai, na neb i'w darllain.

Peth cwilyddus gweld cobleriaid
Yn rhagori ar benaethiaid,
Am gadwraeth eu heneidiau,
A'r peth rheita' mewn neuaddau.

Y cobleriaid hyn a gyfyd,
Ddydd y farn, yn anian acthlyd,
I gondemnio'r fath benaethiaid,
Sydd mor ddibris am yr enaid.

Pob merch tincer gyda'r Saeson
Feder ddarllain llyfrau mawrion;
Ni wyr merched llawer scwier
Gyda ninne ddarllain pader.

Gwradwydd tost sydd i'r Brutaniaid,
Fod mewn crefydd mor ddieithriaid,
Ac na wyr y canfed ddarllain
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain.

Bellach moeswch in', rhag cwilydd,
Bob rhai ddyscu pwyntiau crefydd,
Ac ymroi i ddyscu darllain
Llyfr Duw 'n ein hiaith eu hunain.

Felly gallwn ddyscu 'nabod
Y gwir Dduw, a'i ofni'n wastod,
Ac o'i 'nabod, ei wir ofni,
Fe ry ddidranc fywyd inni.