Prawfddarllenwyd y dudalen hon
GRESO PRINS Y CYMRY.[1]
Y Muwsys oll o Helicon,
Y Grasys tair, a'r Nymphs o'u bron,
Cymrwch bawb eich offer canu,
I reso o Spaen Dywysog Cymru.
Apollo, dod dy gôr yn gyngan,
Par i'r Nymphs a'r Grasys ddawnsian,
Tra fo'r Muwsys oll yn canu,
Welcwm hôm i Brins y Cymry.
Doro i'r Grasys wisgoedd gwynion,
Pletha'u gwallt a r lawrydd gwyrddion,
Trwsia'r Nymphs a'u tlyse o ddau-tu,
Fynd i reso Prins y Cymry.
Rho i'r Muwsys offer auraid,
Gore'n Nelos dan law'r ceidwaid,
Fel y gallont gywraint ganu,
Greso o Spaen i Brins y Cymry.
Gosod bob un yn eu gradde,
Gwachel ado dim yn eisie,
Ag a allo lawenychu,
Clust a llygad Prins y Cymry.
- ↑ Dengys y gân hon deyrngarwch Cymru i Siamas (Iago'r Cyntaf), pan oedd yn prysur golli ymddiried Senedd y wlad. Yr oedd ymdrech ffyrnig rhwng y Protestaniaid a'r Pabyddion yn Ewrob; yr oedd teimlad Prydain yn dod yn fwy Protestanaidd bob dydd, ond ceisiai Iago dynnu'n agosach at Spaen Babyddol. Aeth Siarl Dywysog ar daith ffol i Spaen yn 1623, gyda Buckingham benchwiban, i geisio ennill merch y brenin Croeso iddo o'i daith ynfyd yw'r gân hon. Digon prin yr hoffai y Piwritaniaid weddio ar dduwiau paganaidd Delos a Pharnassus, Ond canodd Milton yr un fath iddynt yn ei Lycidas, cyn troi'r duwiau'n gythreuliaid Coll Gwynfa.