Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae dy 'ffeiriaid hwyntau'n cysgu,
Ac yn gado'r bobol bechu;
Ac i fyw y modd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.

Mae dy farnwyr, a'th wyr mawrion,
Yn cyd-ddwyn â mwrddwyr, meddwon;
Ac yn goddef treiswyr diriaid
Speilio'r gweddwon a'r ymddifaid.

Mae'r swyddogion hwyntau'n godde
Cablu Duw a meddwi'r Sulie,
Troedo'r 'fengyl, casau'r cymun,
Heb na chosp na cherydd arnyn.

Mae'r sheriffaid, a'u debidion,
Yn anrheithio'r bobl wirion;
Ac wrth rym eu braint a'u swydde,
Yn eu speilo liw dydd gole.

Mae'r cyfoethog hwyntau'n llyncu
Faint sy'n helw'r tlawd yng Nghymru
Ac wrth rentu'n dost, ac ocra,
Yn eu gyrru hwy i gardota.

Mae'r cyffredin o bob rhyw,
Yn delo'n ffalst, yn digio Duw,
Yn ddall, yn ddwl, heb fynnu eu dysgu,
Yn mynd i'r pwll, heb odde eu nadu.

Mae pob gradd yn pechu'n rhigyl,
Ac heb wneuthur pris o'r 'fengyl,
Nac o gyfraith Duw gorucha,
Yn addoli'r byd a'r bola.

Mae pob gradd, â rhaffau pechod,
Yn dirdynnu dial hynod,
Am eu penne heb dosturi,
Oni thront oddi wrth eu bryntni.