Os i Gymru y daw cornwyd,
Och! mor amharodol ydwyd
Fynd i'r barr i wneuthur cyfri
Heb na gwisg na dim goleuni.
Os i Gymru y daw'r clefyd,
Ofer ceisio un cyfrwyddyd:
Nid yw'r byd yn abal stopi
Haint, pan ddelo Duw i'n cospi.
Ofer ceisio saeds a ryw,
I wrthnebu clefyd Duw;
Oni throi oddiwrth dy bechod,
Ni thal metswn un o'r chwilod.
Ofer cadw pyrth dy drefydd,
Fe ddaw'r plag dros ben y gwelydd,
Ni all peics na dwbwl canon,
Atal plag, os Duw a'i danfon.
Ofer rhedeg hwnt ag yma,
I geisio cilio rhag dy ddifa;
Dos lle mynnech, fe fyn dyrnod
Duw a'i farn orddiwes pechod.
Goreu cyngor rhag y plag,
I ddyn gadw ei hun yn wag;
Nid rhag bwyd, ac nid rhag diod,
Ond rhag pob rhyw fath o bechod.
Os daw plag i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn i'th gastellu,
Tristwch, cerydd, câs, ac ofan;
Ni ddaeth plag erioed ei hunan.
Fe fydd drygfyd yn dy drefydd,
Fe fydd ochain rhwng dy welydd;
Fe fydd cwynfan ym mhob heol,
Fe fydd braw ar bawb o'th bobol.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/63
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon