Gwan yw'n tai, a chryf yw'n gelyn,
Byrr yw'n terem, siwr yw'n terfyn,
Ansertennol yw 'i ddyfodiad ;
Byddwn barod yn ei wyliad.
4-Cyngor ir Claf.
Pan y'th d'rawer gynta â chlefyd,
Ystyr o ble daeth mor danllyd,
A phwy helodd glefyd atad,
A phaham ei dodwyd arnad.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd
Oddiwrth Dduw y daw mor aethlyd;
Am ein beie mae'n ei hela,
I geisio gennym droi a gwella.
Edifarha am dy feie,
Deisyf bardwn ar dy linie,
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Fe'th gysura yn dy glefyd.
Os 'nynnodd llid dy Dduw yn d'erbyn,
Nes rhoi arnat glefyd sgymun,
Gwaed yr Oen a'th reconsilia,
Deigre heilltion a'i dad-ddigia.
Gostwng iddo, mae'n drugarog;
Cais ei ras, fe'i rhy yn serchog;
Edifara, ynte fadde:
Wyla di, tosturie ynte.
Addef iddo dy gamwedde,
Barn dy hunan am dy feie,
Cwymp o'i flaen, a deisyf bardwn,
Ti gai ras ac absolusiwn.