Tro di ato, ynte a'th dderbyn,
Er ei ddigio rhaid ei ganlyn,
A phan gwelo heilltion ddagrau,
Fe bair laesu dy flinderau.
Duw ei hun sy'n danfon clefyd,
Cennad Duw yw nychdod aethlyd,
Oddiwrth Dduw y daw clefydon,
Ni all neb ond Duw eu danfon.
Nid o'r moroedd, nid o'r mynydd,
Nid o'r ddae'r, na'r aer, na'r corsydd,
Y daw clefyd ar blant dynion,
Ond oddiwrth yr Arglwydd cyfion.
Gwres a gwaew, crach, cornwydion,
Cryd a haint, a syndra calon,
Nychdod, nodau, mall, diflaniad,
Sy' oddiwrth Dduw ei hun yn dwad.
Ni all emprwyr mawr yr holl-fyd,
Ddanfon haint, na thynnu clefyd:
Nid oes neb a'i tynn na'i ddanfon,
Ond Duw mawr, y Barnwr cyfion.
Nid aiff clefyd ffwrdd wrth bwyntment
Leo, nac Antwn, Cat, na Chlement,
Witch, na dewin, swyn, na phlaned,
Nes cenhado Duw ei fyned.
Os o swrffet, os o anwyd,
Neu dŷ afiach y cest glefyd,
Duw ei hun sydd yn dy daro.
Pa fodd bynnag daethost iddo.
Nid wrth ddamwain, nid wrth fforten,
Nid wrth dreiglad lloer na seren,
Y daw clefyd, mawr na bychan,
Ond wrth bwyntment Duw ei hunan.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/81
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon