Na chais edrych, fel dyn ynfyd,
Trwy ba fodd y daeth dy glefyd:
Gwell it' edrych tua'r nefoedd,
Ar dy Dduw a'r llaw a'th d'rawodd.
Duw a'th d'rawodd, Duw a'th wella,
Duw a'th glwyfodd, Duw a'th elia;
Duw sy'n cospi dy gnawd diriaid,
Duw iacha dy gorff a'th enaid.
Derbyn gennad Duw'n groesawgar,
Ymddwyn dano'n ddioddefgar;
Neb a garo Duw fe'i cospa,
Pob mab anwyl fe'i gwialenna.
Bydd ddioddefgar dan dy drwbwl
Ffol a wingad ar ben swmbwl;
Duw a'th d'rawodd mor ddolurus,
Ofer it wrthnebu ei 'wyllys.
Am ein pechod a'n drwg fywyd,
Y mae Duw yn danfon clefyd,
Ac yn gryddfu meibion dynion,
Am droseddu ei orchmynion.
Darn o gyflog pechod aethlyd,
Ydyw nychdod ac afiechyd;
Pechod ddygodd wrth ei gynffon,
A phob clefyd ar blant dynion.
Torri'r Saboth, tyngu'n rhugyl,
Casau'r eglwys a'r efengyl,
Distadl ffeiriaid a swyddogion,
A bair lawer o glefydon.
Meddwdod, maswedd, a phuteindra,
Rhegu, loetran, a lladrata,
Gwledda, gloddest, treisio tlodion,
Sy'n dwyn clefyd a thrallodion.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/82
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon