Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os ce'st glefyd, o daeth gwasgfa,
Pechod helodd hwn i'th ddala,
Ac a barodd i Dduw ddigio,
A rhoi'r clefyd hwn i'th daro.

Chwilia'n fanol dy gydwybod,
A chais gwrdd a'th ffiaidd bechod:
Llwyr groeshoelia dy anwiredd,
Ac ymbilia am drugaredd.

Os 'difari am dy feie,
A llwyr droi at Dduw yn fore,
Fe faddeua Duw dy bechod,
Ac a'th dynn i maes o'th nychdod.

Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Dofi'th boen, a gwella'th gysur;
Cais yn daer esmwythder gantho,
F'all ei roi yr awr y mynno.

Pa ryw bynnag yw dy ddolur,
Fe all Duw ostegu ei wewyr,
A'th iachau y modd y mynno,
Bid e'r dolur mwya fytho.

Fe iachaodd y claf o'r parlys,
Gwraig o'r lacs, a'r cripil nafus,
Job o'i grach, a Namaan glawrllyd,
A'r rhai cleifion o bob clefyd.

Nid yw clefyd ddim ond cennad,
Wrth arch Duw sy'n dywad atad,
Fe ladd, fe baid, pan archo ei berchen,
Fe ddaw, fe a, fel gwas y capten.

O! gan hynny galw'n daerllyd,
Ar dy Dduw sy'n danfon clefyd,
Cais ei nawdd er mwyn dy Brynwr,
Di gei gantho help a swcwr.