Ni chais help i'r corff mor embaid,
Gan y diawl sy'n lladd yr enaid;
Nid oes un physygwr allan
Waeth na'r diawl i helpu'r egwan.
Nid yw swyn ond hug i'th dwyllo,
Gwedi i Satan ei defeisio,
I ddifethu d'enaid gwirion,
Pan y swyner i'th glefydon.
Nid yw'r swynwr ond apostol
Ffalst i'r diawl, i dwyllo'r bobol,
Oddiwrth Grist, mewn poen a thrafel,
I buteinia ar ol y cythrel.
Twyllo'r corff a lladd yr enaid;
Digio Duw, bodloni diawliaid,
Gwrthod Crist, a'r maint sydd eiddo
Y mae'r swyn a'r sawl a'i creto.
Ceisio'r cythraul yn bysygwr,
Ydyw ceisio help gan swynwr;
Ceisio'r diawl i ddarllen tesni,
Yw â dewin ymgynghori.
Ceisio gwir gan dad y celwydd,
Yw ymofyn a drogenydd:
Ceisio help i ladd yr enaid
Ydyw ceisio swyn hudoliaid.
Na châr swynwr mwy na chythrel,
Mae'n dy demtio yn dy drafel;
Glŷn wrth Grist, er maint yw'th flinder
Cais ei nerth, ti gei esmwythder.