Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddordeb ydyw, mai yma y ganwyd IEUAN GWYNEDD, ac y bu fyw y ddwy flynedd cyntaf o'i fywyd. Symudodd ei rieni o Amnodd yno yn 1814. Ganesid iddynt bedwar o blant o'i flaen ef; ond buont oll feirw yn eu babandod, oddieithr yr ail, John Evans, yr hwn a oroesodd ei deulu oll. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth, yn byw y rhan ddiweddaf o'i oes yn y Felinheli, Sir Gaernarfon. Gwr ydoedd yntau o gyneddfau meddyliol cryfion, tra hyddysg yn yr Ysgrythyrau, ac ôl y pethau a "ddysgodd ei fam iddo" yn amlwg arno. Bwriadasai hi iddo fod yn bregethwr—yn saer ysbrydol dan Dduw i adeiladu ei Sion; ond yn saer maen y treuliodd efe ei fywyd. Addysgodd ef yn egwyddorion ei sect fanylaf ei hun o Uchel-Galfiniaeth; ond wrth ymdrechu ei wneyd yn ormod o Galfiniad, gwnaeth ef, yn ol ei barn hi, yn llawer rhy fychan—yn Arminiad a Wesleyad. Bu John Evans farw yn Mawrth, 1869, wedi bod yn aelod a diacon cyfrifol gyda'r Trefnyddion Wesleyaidd am flynyddau lawer.

Ganwyd Evan Jones Medi 5ed, 1820, yn faban "mor wael," fel y dywed, yn ei "Fywgofiant," "nes y tybiai llawer mai ychydig oriau fyddai ysbaid fy arosiad yn y byd hwn; ac er mwyn cael dodi fy llwch i orwedd yn mynwent Eglwys y plwyf wrth oleu dydd, bedyddiwyd fi yr un dydd gan y Parch. Cadwalader Jones, Dolgellau." Fel hyn yr oedd y "mynych wendid" y dyoddefodd gymaint oddiwrtho trwy ei holl fywyd yn enedigol gydag ef.

Yn 1824 symudodd y teulu i'r Tycroes, bwthyn bychan gerllaw gorsaf y Bont Newydd, tua thair milldir o Ddolgellau, ar ffordd y Bala. Yno y treuliodd Evan Jones a'i briod weddill eu hoes, a'u mab ieuangaf ei 16 mlynedd cyntaf. Yn fuan wedi eu dyfodiad yma trodd y mab hynaf, John, allan i weini, fel mai unig ofal ei fam ar yr aelwyd gartref o hyny allan oedd "Evan bach." Yr oedd tua chwech mlwydd oed cyn cael ei anfon i Ysgol Sabbothol na dyddiol. Y prif achos o hyn oedd gwaeledd gwastadol ei iechyd y blynyddau hyn. Gartref yn ei addysgu y treuliai Catherine Jones y pryd hwn y rhan fwyaf o'i Sabbothau. Yr oedd ganddi fwy o ffydd yn ei gallu a'i hewyllys ei hun nag yn eiddo neb arall i'w addysgu. Nid ystyriai lafur dilynol yr athraw yn yr Ysgol Sabbothol a'r pregethwr yn y pulpud ond attodiadau i'w llafur hi gartref. I'w phlant ei hun, pa bregethwr yn holl bulpudau Cred—pa athrawes yn Ysgolion Sabbothol y byd, fel eu mam?—pa bulpud fel aelwyd cartref? "Athrofa yr aelwyd!"—dyma athrofa a sefydlodd Duw ei hun yn Eden, ac un—yr unig un—a fawrhaodd y Duw ddyn trwy ymostwng i ddyfod ei hun yn ddysgybl ufudd ynddi—athrofa a fawrhaodd weithiau fyrdd wedi hyny uwchlaw yr un arall, trwy ei defnyddio fel ei brif foddion i barotoi i'w gwaith y dynion etholedig hyny a fwriadai i fod yn "fawr" yn ei deyrnas ar y ddaear. Yr un batriarchaidd, deuluaidd, oedd goruchwyliaeth gyntaf Duw yn addysgiad y byd, a threfn Duw oedd trefn Catherine Jones. Rhaid priodoli defnyddioldeb dilynol y plentyn hwnw i Gymru ac i'r byd yn benaf i'r pethau "a ddysgodd ei fam iddo" yn awr yn unigrwydd aelwyd y Tycroes. Mynych y ceid hi