Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyledus am ei enwogrwydd fel ysgolaig ac archfeirniad Cymru. Ychydig ysgol a gafodd Joseph Harries (Gomer), cychwynydd a golygydd y "Seren Gomer," yr hon a enillodd iddo safle mor uchel yn ei wlad fel llenor, bardd, a beirniad. O'r pwll glo yn Merthyr y dringodd Thomas William Jenkyn i gadair dduwinyddol Cheshunt College, ac i ddyfod yn awdwr un o'r cyfrolau galluocaf a ysgrifenwyd eto ar "Yr lawn." Ni chafodd John Jenkins, Hengoed, erioed ddiwrnod o ysgol ddyddiol. Yr oedd yn 15 mlwydd oed cyn dysgu yr wyddor. Cymerodd ei addysg i'w law ei hun; cyrhaeddodd fesur helaeth o ddysgeidiaeth, a chyfansoddodd Gorff o Dduwinyddiaeth ac Esboniad ar y Bibl, a enillasant iddo y radd o D.D. Ar aelwyd bythynwr tlawd yn Môn y magwyd ein bardd enwocaf, Goronwy Owen. Oddiar aelwyd anfanteisiol tafarnwr a theiliwr bychan y cychwynodd y bardd a'r athraw dysgedig, gwladgarol, Edward Richards, sylfaenydd a phrifathraw cyntaf Ysgol Ystradmeurig, ac awdwr un o'r darnau barddonol tlysaf yn ein hiaith—"Y Fugeilgerdd." Yr athrylithgar Arfonwyson, i rieni llawer mwy eu cariad nâ'u cyfoeth yr ymddiriedodd y Nefoedd yntau i'w fagu, ac yn nghylch dinod llyfrwerthwr teithiol y cychwynodd ar yrfa ei fywyd, heb ond ychydig o addysg foreuol. Ond cyn ei therfyn, er byred oedd, gwelwn ef wedi dringo i fyny yn arolygydd Arsyllfa Freninol Greenwich, ac i gael ei restru yn mysg prif fesuronwyr (mathematicians) y deyrnas. Gweydd hunan addysgedig oedd yr enwocaf o feirdd a beirniaid Cymru yn yr oes hon—Eben Fardd—y rhan flaenaf o'i fywyd. O'r gwŷdd hefyd y daeth allan dywysog pregethwyr Cymru, ac un o'r engreifftiau perffeithiaf o'r "pulpit orator" mewn unrhyw wlad—John Elias. Prin iawn oedd yr addysg a allodd rhieni Daniel Williams, sylfaenydd yr ysgolion gwladgarol a elwir ar ei enw, yn Wrexham, roddi iddo i'w gychwyn allan i'r byd; ond gwnaeth awyddfryd greddfol y bachgen ei hun am ddysgeidiaeth i fyny am eu tlodi hwy, ac mor uchel oedd y cymeriad a enillodd fel duwinydd fel yr anrhydeddodd dwy Brifathrofa Scotland ef â'r gradd o D.D. Oddiar aelwyd cartref tlawd y cychwynodd Dr. Edward Williams, i ddyfod, trwy ei allu a'i ymroddiad ei hun, mor glodfawr fel duwinydd ac fel prifathraw Coleg Rotherham. I derfynu, mab i saer maen a cherfiwr ar lechi beddau oedd Iolo Morganwg, a saer maen fu yntau am flynyddau lawer. Wrth edrych ar ei dad yn cerfio ar y dalenau ceryg y dysgodd y wyddor Gymraeg. Ond bu Iolo Morganwg fyw i gerfio â'i ysgrif bin enw anfarwol iddo ei hun fel llenor a hynafiaethydd Cymreig. Yn y rhestr hon o'n "dynion hunan-wneuthuredig" rhaid i ni hawlio safle uchel i IEUAN GWYNEDD. Heb lyfrau ei hun, na modd i'w prynu, äi o dŷ i dŷ i fenthyca llyfrau cymydogion mwy ffodus. Gwerth a swyn pob tŷ iddo ef fyddai hyny o lyfrau oedd ynddo, a gwerth pawb ynddynt fyddai eu darllengarwch a'u gwybodaeth. Ymwelydd mwy diflinder i dŷ lle y byddai llyfrau nis gallai fod. Ond cael llyfr i'w law, byddai mor ddystaw a'r llygoden yn y llaethdy, a llawer mwy diniwed.

Yr oedd syniadau ei dad a'i fam yn dra gwahanol am yr ysbryd darllengar hwn yn y bachgen. Ymddygai Evan Jones trwy ei oes