Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynelid yn y Bala yn mis Awst y flwyddyn hono, dan lywyddiaeth Syr W. W. Wynn. Ymgeisiodd ar dri o'r testynau barddonol—englyn i Gader Idris; englynion ar briodas R. W. Vaughan, Ysw., aer Nannau; a phryddest er cof am Dr. W. O. Pughe (Idrison)—prif destyn yr Eisteddfod. O'r wyth ymgeiswyr ar y prif destyn y cydfuddugwyr oedd Gwalchmai a Gwilym Padarn. Cyhoeddasom bryddest "Galarus yn wir" o "Fro Wylofain," a dau gyfansoddiad eraill ar yr un testyn, yn flaenaf yn ei Weithiau, fel engreifftiau o'i alluoedd meddyliol ac awenyddol yn fachgen 15 mlwydd oed, ac fel ymgais cyntaf ei awen ar faes cystadleuaeth Eisteddfodol, ar yr hwn y profodd y fath gampwr wedi hyny. Collodd y wobr, ond ni bu ei ymgais yn ofer. Dygwyddodd i Mr. Aneurin O. Pughe, mab y Doctor Pughe, gael golwg ar ei bryddest yn ystod yr Eisteddfod; ac wedi deall oedran ac amgylchiadau yr awdwr—yr ieuangaf o lawer o'r holl ymgeiswyr—edmygai ei awen addawol gymaint, fel y gwobrwyodd ef âg anrheg sylweddol ar y pryd, ac ar amryw achlysuron wedi hyny, wrth fyned heibio y Tycroes ar ei ymweliadau â Thalyllyn gerllaw yma. Caredigrwydd hwn Mr. A. O. Pughe iddo a gynhyrfai ei awen i anfon iddo yr "Anerch " doniol, croesawgar a geir yn tu dal. 5 o'i Weithiau.

Pan yn yr ysgol yn Llanfachreth, cafodd Evan Jones gefnogydd caredig yn offeiriad y plwyf, y Parch. George Philipps, yr hwn yr oedd ei lyfrgell lawn a'i wybodaeth helaeth at ei wasanaeth y pryd y mynai. Taenid y gair ar y pryd y teimlai Mr. Philipps y fath ddyddordeb ynddo, fel y cynygiodd i'w rieni ei ddwyn i fyny yn offeiriad yn hollol ddidraul iddynt hwy, fel ag i'w osod mewn sefyllfa o ddigonoldeb a defnyddioldeb teilwng o'i dalentau. Yr oedd y fath gynygiad yn glod uchel i haelfrydedd y boneddwr parchedig, ac i alluoedd addawol eu bachgen. Ond er mor haelfrydig oedd y cynygiad, ymesgusodai ei hen fam anmhlygedig rhag derbyn y caredigrwydd, a bendithia Cymru ei choffadwriaeth am hyny. Mor wahanol fuasai ystori bywyd a choffadwriaeth ei bachgen i'r hyn ydyw heddyw, pe buasai wedi ei dderbyn!

Yn 1836, gwnaeth ymgais i enill ychydig fywioliaeth trwy gadw ysgol ddyddiol yn y Brithdir a Rhydymain; ond, ys dywedai yntau, "ni chefais fawr o gefnogaeth, a llai na hyny o elw, os oedd modd." Felly gorfu iddo cyn hir roddi ei ymgais i fyny o ddiffyg cefnogaeth. Yr oedd y pryd hwn hefyd yn llythyrgludydd i R. Richards, Ysw., Caerynwch, o'r Bont Newydd, gerllaw y Tycroes, lle yr ai y Mail Car heibio i Ddolgellau. Gwrthddrych o ddyddordeb a chroesaw arbenig yn mhob man ydyw y llythyrgludydd; a phan y cyrhaeddai Evan Jones â'i lythyrgod i Gaerynwch, croesawid ef â'i wala o fwyd a diod, a'r canlyniad fu, yn ol ei addefiad ei hun, iddo fyned yn " hoff o'r ddiod feddwol." Tua'r un adeg cymerodd priodas R. W. Vaughan, Ysw., aer Nannau, â Miss Lloyd o Ragget le. Gwnai safle uchel y ddau deulu yn y Sir, yn enwedig un henafol Nannau, yr amgylchiad yn un dyddorol a rhwysgfawr nodedig trwy yr holl Sir hon. Ymgystadleuai y beirdd, mawrion a bychain, mewn plethu llawryfon barddonol