Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mamau yn fwy llwyddianus nag eiddo neb arall. Pa hauwr arall sydd yn cael tir mor "dda"—tir wedi ei fraenaru iddo gan y Nef oedd ei hun—yn cael tymor mor fanteisiol a hinsawdd mor ffafriol? Engraifft ddyddorol o wirionedd y tystiolaethau ysbrydoledig uchod ydyw hanes aelwyd y Tycroes. Cafodd y fam yno y gwynfyd o weled yr had a hauasai yn "ffynu" yn doreithiog yn ei dau fab. Cyfeiriasom at ei mab hynaf o'r blaen. Yr oedd ei mab ieuangaf, Evan, pan o bedair ar ddeg i un ar bymtheg mlwydd oed, yn fach gen mor athrylithgar, mor nwyfus, a'i ddawn awenyddol wedi enill iddo y fath boblogrwydd yn yr ardal hon, fel yr ymddangosai blagur addawol ei febyd mewn perygl o gael ei fallu gan awyrgylch llygredig y cynulliadau gloddestgar y denid ef iddynt y pryd hwn. Ond na, yr oedd ei fam bryderus wedi gwneyd ei rhan hi yn ffyddlawn nodedig i blanu egwyddorion o ddwyfol nerth yn ei feddwl tyner cyn hyny; ac yn mha le y clywodd clust erioed am fam wedi cyflawni ei rhan hi yn ffyddlawn a doeth i "blanu a dyfrhau" yr "had da" yn ngardd meddwl ei phlentyn, a Duw y Nefoedd yn esgeuluso ei ran Ef o "roddi y cynydd?" Ac a oedd ei miloedd deisebau taerion oedd ar "file" y Nefoedd ar ran ei bachgen wedi eu dodi yno i'w hesgeuluso a'u hanghofio? Ai Baal felly ydyw y Duw y llefai arno? Na, gofalodd Duw am ei deisebau a'i phlentyn hi fel am ei air a'i gymeriad ei hun, ac ni chadwodd hi yn hir heb weled ei deisyfiadau yn dechreu cael eu cyflawni.

Yn 1836, pan yr oedd ein cyfaill ieuanc yn edrych gyda mwyfwy o hoffder ar wahanol rodfeydd hudolus "llwybrau yr ysbeilydd," wele udgorn auraidd Dirwest yn adseinio trwy ein gwlad. Deffrodd ei adsain yn y fan holl deimladau ac adgofion goreu ei enaid o'u hûn beryglus. Clywai cyn hir am sefydliad Cymdeithas Ddirwestol yn Nolgellau ar y 7fed o Dachwedd, a chyn eto sefydlu cangen yn y Brithdir iddo ymuno â hi, ysgrifenai ardystiad caeth iddo ei hun, ac arwyddai ef ar y 26ain o'r un mis. Mae yr ardystiad hwnw, â'i enw wrtho, a ysgrifenodd yn fachgen 16 mlwydd oed, yn awr o'n blaen. Mae yn un gorlawn o ddyddordeb―a gawn ni ddyweyd, o gysegredigrwydd? Ardystiad Ieuan Gwynedd ydyw. Dyma un ardystiad dirwestol, o leiaf, na ddaeth byth i waradwydd. Wedi ei arwyddo, rhoddodd y dirwestwr ieuanc ei ysgrif bin i lawr, byth mwy i gyffwrdd â'r gwpan feddwol. Toriad gwawr dydd oedd hwn a barhaodd yn ddysglaer, heb gysgod un cwmwl arno, hyd fachlud haul—cychwyniad ar hyd ffordd uniawn na fu byth gyfeiliorni na gwyro un cam allan o honi, na syrthio unwaith arni, hyd derfyn y daith. Dyma un "cyfamod disigl" rhwng enaid ieuanc o ddifrif ar y ddaear â Duw yn y Nefoedd, nas torwyd byth. Nid oedd holl fywyd dilynol y bachgen a ysgrifenodd yr ardystiad hwn ond adysgrif deg, fywiol o hono. Ydyw, y mae yn gorwedd heddyw yn mynwent y Groeswen â'i gymeriad dirwestol ar y ddaear mor "ddifeius a difrycheulyd " ag ydyw ei enaid fry yn y Nef.

Ar y 12fed o Ragfyr, 1836, sefydlwyd Cymdeithas Ddirwestol y Brithdir, ac un o'r enwau cyntaf ar restr ei haelodau oedd "Evan Jones, ieuangaf, Tycroes." Yn ei Ddyddlyfr dywed am hyn, " Cyf-