Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rifwyf hyn yn un o'r amgylchiadau dedwyddaf yn fy oes. Ardystiais am byth yn nerth Duw." Yr oedd hyn dipyn yn fwy ffyddiog nag ardystiad ei hen gyfaill, yr hybarch Lewis Williams, o Lanfachreth. Ymrwymodd ef i gadw yr ardystiad "tra y credai fod Dirwest o Dduw." Ond credodd yr hen batriarch felly "am byth," fel y daethant ill dau i'r un diwedd dedwydd—parhasant yn ddirwestwyr egwyddorol, gwresog, gweithgar, hyd eu bedd.

"Yn nechreu 1837," ebe efe yn ei "Fywgofiant," "dygwyd fi i feddwl yn fwy difrifol nag erioed am grefydd. Dyfnhäwyd y meddyliau hyn trwy farwolaeth cyfeilles ieuanc dra hoff i mi, a darlleniad llyfr o waith Brookes, Afalau Aur i Bobl Ieuainc,' yn nghyda phregeth gan y Parch. Cadwalader Jones ar Preg. v. 4, 5. Dan y teimladau hyn troais at Dduw, a chofiaf byth y llanerch y dechreuais ymddwyn fel creadur rhesymol arno, trwy syrthio i lawr ar fy ngliniau i alw ar enw yr Arglwydd. Hoff genyf edrych ar y fan pan yn ymweled â'm rhieni. Derbyniwyd fi yn aelod eglwysig gan y Parch. C. Jones, Medi 24ain, 1837." Fel hyn profodd yr ymweliad dirwestol i Evan Jones, fel i filoedd eraill, yn ymweliad dwyfol, ac, fel holl ymweliadau Duw, yn un "mewn pryd," i ragflaenu yr aflwydd a'i bygythiai. O'r dydd cyntaf yr arwyddodd ei ardystiad ei hun, newidiodd holl gyfeiriadau ei feddwl a'i fyfyrdodau, ei ysbryd a'i chwaeth,—newidiodd yn drwyadl ei farn am y diodydd meddwol, am neithiorau, a gwleddoedd blynyddol y Cymdeithasau Cyfeillgar uchelwyliau glythineb a meddwdod dosbarthiadau gweithiol ein gwlad. Ystyriai trwy ei holl oes ddilynol mai un o'r camrau mwyaf hanfodol tuag at feddyginiaethu meddwdod Cymru fyddai symud y Cymdeithasau hyn allan o'r tafarndai a'u temtasiynau, fel na byddo i sefydliadau sydd yn gymaint bendith dymorol droi yn felldith foesol i'n gwlad. Ni welwyd ef byth mwy yn darostwng ei awen i ddifyru unrhyw gylchoedd hudolus a llygredig o'r fath. Newidiodd awyrgylch a thestynau ei awen, a'r cylch cymdeithasol y troasai ynddo—mewn gair, "Wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd," oblegyd gwnaethpwyd ef ei hun yn ei hun yn " greadur newydd yn Nghrist Iesu." O hyn allan ymddygai fel un yn gweled pobpeth yn ngoleuni Gair Duw a byd arall,—fel un â'r nôd deublyg o flaen ei lygad o fod yn dduwiol ei hun ac yn ddefnyddiol i eraill,—fel y "bachgen Iesu," yn teimlo bellach fod yn "rhaid iddo fod yn nghylch y pethau a berthynent i'w Dad." Mynychai dŷ yr Arglwydd yn fwy dyfal nag erioed. Ymaflai gyda'i frwdfrydedd greddfol yn mhob rhan o'r gwaith mawr y gelwid ef iddo. Bu yn athraw gweithgar yn yr Ysgol Sabbothol tra y bu yn aros yn ei ardal enedigol.

Ond maes penaf llafur y crefyddwr ieuanc oedd y maes newydd a agorasai Dirwest. Yr oedd hwn yn un cymhwys a swynol nodedig iddo yn un y gallai ei ysbryd crefyddol a'i awen gael ynddo lawn waith a boddhâd, gyda'r amcan pwysig o waredu ei gyd-ddynion o gaethiwed archelyn mawr y ddynoliaeth—Meddwdod. Yr oedd ei "gariad cyntaf " gyda'r diwygiad grymus hwn yn angerddol—ei holl alluoedd a'i fyfyrdodau, a'i holl amser o'r bron, oddieithr oriau yr