Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr y dydd, Mor naturiol, mor faddeuol, onide? ydyw i fachgen mor ieuanc deimlo yn hunanol—yn hunanol nodedig—wrth weled cynyrchion ei awen yn rhoddi y fath wledd feddyliol—yn creu y fath frwdfrydedd pur yn ysbrydoedd torf mor fawr ac mor oleuedig a hon! Oni theimlech yn foddlon i holl fechgynos chwyddedig Cymru deimlo mor hunanol, ac ymddangos mor dorsyth, ag yntau—ar yr un telerau?

Wrth wrando ar y dirwestwr ieuanc yn areithio, nis gallech lai na chredu ei fod ef ei hun yn drwyadl argyhoeddedig fod holl egwyddorion ac ysbryd y Bibl, a holl ofynion pwysicaf Cristionogaeth a dynoliaeth, o blaid yr achos y dadleuai ef drosto. Os amheuech gywirdeb ei farn, byddai raid i chwi addef cywirdeb ei ysbryd a'i ddybenion, ac na bu prophwyd ysbrydoledig erioed yn fwy o ddifrif. Yn ei Weithiau ceir ei "Gyffes Ddirwestol," a gyhoeddodd yn y " Dirwestydd " am 1837, yn fachgen 16 mlwydd oed. Nid Ilawer a ddywedwyd o blaid yr achos dirwestol, o hyny hyd heddyw, na cheir ei egwyddor sylfaenol dan ryw benawd yn y "Gyffes" syml, gynwysfawr, synwyrlawn hon.

Ni chyfyngai ein gwron ieuanc ei elyniaeth i'r Ddiod Feddwol. Yr oedd trwy ei oes yn elyn anghymodlawn i'w brawd-chwant, y Myglys. Llwyddodd i sefydlu yn y Brithdir Gymdeithas er llwyrymwrthod â'r Myglys. Efe oedd ei hysgrifenydd. Dywed cenadon wrthym fod rhai ffurfiau o eulunaddoliaeth yn llawer anhaws enill y paganiaid oddiwrthynt nag eraill. Felly tra y gellid rhifo y dychweledigion o fysg addolwyr yr eulun Bacchus yn yr ardal wrth y canoedd, ychydig o lwydd a fu ar y genadaeth hon yn mysg addolwyr yr eulun teuluaidd, y Myglys; a'r ychydig a ddychwelwyd, buan y troisant yn ol drachefn i arogldarthu i'w heulun swynol. Ffaith a ymddangosai iddo ef yn un dra arwyddocaol oedd, mai ysmocwyr oedd bron yr oll o'r gwrthgilwyr wedi hyn yn ol oddi wrth Ddirwest at y ddiod feddwol. Ystyriai y potiwr a'r ysmoci wr yn "frodyr undad unfam" i'w gilydd. Nis gallai erioed weled na synwyr na chysondeb yn yr olygfa o un yn arogldarthu i'w eulun ei hun, y Myglys, yn tynu ei bibell o'i enau i gollfarnu ei frawd oedd yn diod offrymu i'w eulun yntau, y Ddiod Feddwol, gan nad oedd y ddau ond gwahanol eulunod yn delwi yr un duw—BLYS. Trwy fod gwasanaeth y naill yn creu syched, a'r llall yn ei ddiodi a'i gryfhau, heb byth ei ddiwallu, yr un rhai, fel rheol, a welir wrth allorau y ddau eulun—y Bibell a'r Haner-Peint; a meiddiwn ninau sicrhau y lluaws eithriadau anrhydeddus i'r rheol offeiriaid dirwestol y Myglys—ymdrechant a fynont i ddymchwelyd allorau gwaedlyd yr eulun meddwol, y bydd allorau y ddau eulun swynol hyn i fyny neu i lawr yn y byd gyda'u gilydd. Wrth yr ysmociwr sydd yn collfarnu ei frawd, y potiwr, dywedwn, " Y meddyg, iachâ dy hun."

Yn fuan wedi ei dderbyniad yn aelod eglwysig yn Medi, 1837, ac i'w areithiau a'i lafur yn mhob modd o blaid Dirwest ddwyn ei ddoniau areithyddol a'i awydd i lesâu ei gyd-ddynion i'r amlwg, dechreuai rhai o'i frodyr yn y Brithdir son am iddo gael dechreu