Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaioni" iddo ei hun neu i'w rieni? Sicrhai yr hen ddiacon William Richard y buasai yn foddlawn iddo gael dechreu pregethu pe gwelsai ynddo ryw osgo at wneyd rhyw ddaioni, pe buasai ond dal tyrchod daear." Arch—dyrchwr y Brithdir oedd yr hen frawd ei hun. Credai ei dad a'i gymydogion, os na ddeuai i allu trin rhyw offeryn yn fwy deheuig ac effeithiol nag y gwnai y gaib a'r bladur a gwenol y gwŷdd, mai difrifol yn wir oedd rhagolygon ei fywyd; a'r gwir anwadadwy oedd hyn.

Am y brophwydoliaeth "na ddeuai dim byth o hono," yr oedd hono, wrth gwrs, yn gynamserol. Mor ardderchog, onide? y gwrthbrofodd hi, fel yr edliwiadau eraill oll, yn ei fywyd wedi hyny! Cawsent hwy eu hunain brofion lled argoelus eisoes, fod un offeryn bychan o leiaf a allai drin yn dra deheuig ac effeithiol—yn llawer mwy felly nag y mynasent hwy y pryd hwnw—ei ysgrif bin. Cyn ei ymuniad â dirwest ac â chrefydd, yr oedd i'w gymydogion yn y Brithdir yr hyn oedd Twm o'r Nant yn ei ddydd i offeiriaid Cymru—yn fwgan brawychus. Os dygwyddai unrhyw beth hynod yn eu mysg—fod i fab rhywun ladrata afalau neu eirin o berllan cymydog, neu ymddwyn yn hynod o greulon at greadur direswm;—fod i ferch, ieuanc neu hen, ymddangos yn y capel y Sabboth gyda shawl neu ribbon neu ryw ddilledyn arall hynod ei liw neu ei lun, neu ledaenu rhyw chwedl hynod o gas neu gelwyddog am rywun a garai ef; os dygwyddai fod rhyw gwpl yn hynod o anghymharus neu anffodus yn eu cyfeillach garwriaethol â'u gilydd, neu i ryw gymydog, ieuanc neu hen, gael ei ddwyn adref y nos o'r blaen o'r ffair yn hynod o feddw ac afreolus—gwae hwynt! Nid oedd dim a ofnai yr anffodusion hyny yn fwy na fflangelliad o englynion gan awen ddirieidus, annhrugarog "Evan Tycroes." Diau fod y swydd hon o fflangellydd awenyddol pechaduriaid y Brithdir yn un a weinyddai gryn ddifyrwch iddo ef ac eraill ar y pryd. Ond yn awr, pan y soniwyd am ei ddyrchafu i'r pulpud, dyma ddydd dial ei glwyfedigion wedi dyfod; a gwelodd erbyn hyn mai enwogrwydd chwerw oedd yr hwn a enillasai gorchestgampau ei awen ddirieidus iddo. Cafodd fod llinellau miniog ei englynion erbyn hyn fel cynifer o farau ar ddrws pulpud y Brithdir yn ei erbyn. Eithaf gwir, "A hauo ddrain, na fydded droednoeth."

Ond Evan Jones "yn ddiogyn?" Nac oedd! Gyda'r hyn a garai ac a gyfrifai ef yn llafur ac yn elw, yr oedd o'i febyd y mwyaf diwyd yn yr holl ardal. Sut bynag yr oedd gyda William Richard a'i gollfarnwyr eraill, ni roddai ef byth ei ben ar ei obenydd y nos, i orphwys oddiwrth ei lafur meddyliol, na byddai wedi elwa ac ymgyfoethogi llawer. Hen edliwiad ysbryd y byd yn erbyn ffafredigion Athrylith yn mhob oes ydyw hwn—"y diogyn diles." Yr ydym yn cael, fel rheol, mai diosgo a dichwaeth i lafur y dwylaw a "gofalon y bywyd hwn " ydoedd y llafurwyr enwocaf yn "myd y meddwl" yn mhob oes. Ni thyf athrylith byth yn ysbryd y byd mwy nag y tyf "grawnwin ar ddrain." Ni welwyd yr ystlum erioed yn ehedeg i uchelderau yr eryr. Ni thyfodd y bachgen cyffredin erioed yn ddyn anghyffredin, gan nad yw y dyn yn ddim