Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgen nag ymddadblygiad o'r bachgen. Methodd eglwys y Brithdir yn deg a gweled IEUAN GWYNEDD yn "Evan Tycroes."

Ond dyoddefai Evan Jones, yn yr achos hwn o ddechreu pregethu, nid yn unig am ei feiau ei hun, ond hefyd am feiau ei fam. Dynes ryfedd, ryfedd iawn, oedd Catherine Jones—dynes yn mhell tu hwnt i'r cyffredin yn nerth ei meddwl, helaethrwydd ei gwybodaeth, a dyfnder ei hargyhoeddiadau crefyddol. Yr oedd yn hynod am ei dawn ymadrodd a'i dawn gweddi. Gweddïai yn gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddi pan y byddai angen, a hyny gyda'r fath rwyddineb, ac mewn ysbryd ac ymadroddion mor briodol, fel y gellid yn hawdd deimlo nad oedd gorsedd gras mewn un modd yn lle dyeithr iddi. Offeiriadai yn fynych ar yr allor deuluaidd gartref. Yr oedd ei huchelgais a'i hymdrech i addysgu ei dau fab yn ngwirioneddau Llyfr Duw, i'w harwain i'w rodfeydd uchel a chysegredig ar aelwyd cartref, uwchlaw pob canmoliaeth, ac yn esiampl nodedig i holl famau Cymru. "Byddaf fi," ebai ei mab ieuangaf, wrth gyfeirio at ei marwolaeth, "yn gofgolofn o fuddioldeb addysg mam. Dwy engraifft ychwanegol ydoedd ei dau fab hi, at brofion aneirif eraill a ellid ddwyn, nad ydyw ond cymhariaethol ddibwys i blant yn eu cysylltiadau moesol ac ysbrydol pa fath fydd ymddygiad eu tad, os bydd ganddynt fam yn llon'd ei henw a'i lle.

Dywedasom mai blynyddoedd pwysig i Catherine Jones a'i theulu oedd y rhai hyny a dreuliasant yn Amnodd, gerllaw Llanuwchllyn, dan weinidogaeth Dr. Lewis. Byth er hyny yr oedd yn aelod gwresog o'r sect fanylaf o Galfiniaid. Dygai ddirfawr zel dros blaid yr "Hen Bobl," fel eu gelwid, yn Llanuwchllyn, yn eu brwydrau duwinyddol a chyfreithiol âg olynydd Dr. Lewis, y Parch. Michael Jones. Erbyn hyn yr oedd poethder y brwydro a'r cyfreithio rhyngddynt wedi cyrhaedd ei bwynt uchaf. Yr oedd C. Jones yn feddianol ar alluoedd dadleuol anghyffredin, a byth nid esgeulusai y cyfle i'w harddangos. "Rhyfeloedd a son am ryfeloedd " a glywid yn wastadol ar aelwyd y Tycroes, yr hyn a barai fawr ofid i'w mab Evan. Ni oddefai ei hysbryd annibynol i neb amheu unrhyw erthygl yn ei chredo duwinyddol hi. Beth bynag am eiddo y pab o Rufain, ni feiddiai neb gwestiyno anffaeledigrwydd y pab o'r Tycroes. Yr oedd y Parch. C. Jones, fel bron yr oll o brif weinidogion y Gogledd, o'r dechreuad yn bleidiwr penderfynol i'r Parch. M. Jones yn ei frwydr â'r " Hen Bobl." Felly yr oedd bron yr oll o eglwys y Brithdir. Parai hyn fod C. Jones yn Ismaeliad yn yr eglwys. Enciliodd hi a'r teulu oddiyno, a buont byw mewn enciliad am flynyddau. Aï, pan y gallai, ar y Sabbothau i Lanuwchllyn, naw milldir o bellder, i gydaddoli a chymuno â'r "Hen Bobl." Fel y mae pob teimlad, yn gystal a phob aderyn, yn "cynyrchu ei ryw," cynyrchai yr ysbryd rhagfarnllyd hwn oedd yn ei mynwes hi yr un teimlad yn mynwesau y frawdoliaeth yn y Brithdir, ac aberth llosg ar allor y rhagfarn hon o bob tu oedd gwrthodiad ei mab Evan gan yr eglwys. Trwy ei wrthod, collodd yr eglwys a'i magodd yr anrhydedd o gychwyn dyn ieuanc ar ei yrfa gyhoeddus y teimlasai