Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unrhyw eglwys yn Nghymru wedi hyny ymffrost cyfiawn o fod yn fam ysbrydol iddo.

Siomiant llym oedd y gwrthodiad hwn i'r fam a'r mab. Mor uchel oedd ei syniadau am alluoedd " Evan bach," mor llwyr y gosodasai ei chalon ar iddo gael treulio ei fywyd yn " gwasanaethu Duw yn efengyl ei Fab," fel y disgynodd i'w bedd ddeuddeg mlynedd wedi hyn â chlwyfau ei hysbryd oblegyd y gwrthodiad hwn heb eu cwbl iachâu. Nid felly y bu gyda'r gwrthodedig ei hun. Byth er pan y dechreuasai lafurio o blaid dirwest a chrefydd, ac ymdeimlo â galluoedd mewnol ei enaid, teimlai, fel y dengys ei Ddydd-lyfr, dan holl ystormydd boreu ei oes, ffydd gref yn Nuw—ffydd fod rhyw ddyfodol dysgleiriach o lafur a defnyddioldeb wedi eu rhag lunio gan y Nef iddo, os cai fyw. Wedi i amser a Rhagluniaeth daflu eu goleuni ar yr oruchwyliaeth chwerw hon, daeth ef ei hun i gredu fod ei wrthwynebwyr, wrth gau y pulpud yn ei erbyn, yn onest o leiaf, os nad yn gywir, dan yr amgylchiadau. Prawf tarawiadol o hyn ydyw y penill a'r nodiad yn tu dal. 250 o'i Weithiau ar ei hen wrthwynebydd anmhlygedig, William Richard. Profa y rhai hyny nad llawer o feibion Adda, wedi y cyfan, a enillasent y fath safle uchel yn meddwl y bachgen a wrthwynebasai a'r hen weddïwr anghymharol o'r Perthi-llwydion.

Gwelai Evan Jones mai tynged "prophwyd yn ei wlad ei hun" oedd iddo ef yn ei ardal enedigol. Ofer a fuasai pob ymgais i enill cynaliaeth brin trwy gadw ysgol ddyddiol yn y Brithdir a Rhydymain. Os edrychai ei lygad chwenychol i fyny tua gwrthddrych penaf ei uchelgais—y pulpud, yr oedd hwnw hefyd yn anobeithiol glöedig yn ei erbyn gan yr eglwys a'i magodd. Ni fynai bwyso yn hŵy ar brinder ei rieni gartref. Llais eglur Rhagluniaeth wrtho oedd, "Cerdda oddiyma." Fel hyn cafodd brofiad chwerw ar ei gychwyniad cyntaf ar ei yrfa grefyddol "beth yw siomiant." Ond ni fynai ei fwrw i lawr na'i ddigaloni. Ei ddigaloni! Nid oedd y loes o ddigalondid yn ei fynwes ef ond megys enciliad tôn y môr dan guriadau y corwynt, tuag at gasglu nerth i ymgodi i ymchwydd uwch a mwy herfeiddgar. Os oedd pob maes llafur a defnyddioldeb wedi eu cau i fyny, a phob adnoddau cynaliaeth wedi pallu iddo, yn ei wlad enedigol, ymwrolai yn yr adgof fod ganddo eto ddau adnawdd yn aros iddo—Duw a'i alluoedd ei hun. Teimlai yr adnoddau hyn yn ddigonol; a chan ymddiried ynddynt, penderfynodd geisio gwell ffawd mewn gwlad arall.