Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu yn cadw ysgol ddyddiol yn Sardis a Saron, gerllaw Llanwddyn, am tua chwe' mis. Rhoddwyd ei grefydd ar brawf ar ei ddyfodiad cyntaf yno. Llanwyr oedd teulu y ffarm yr aeth gyntaf i letya iddi—llanwyr o'r hen ryw, gelynol, nid yn unig i Ymneillduaeth a'r capelau, ond i bob ymddangosiad o wir grefydd, oddieithr myned unwaith i'r Llan ar y Sul a'r gwyliau gosodedig. Dyoddefodd yno ddirmyg ac erledigaeth oblegyd ei zel dros grefydd, y capel, a dirwest. Pan erfyniai ar y cyntaf am gael gofyn bendith ar y bwyd a chadw dyledswydd deuluaidd, eu hunig atebiad fyddai ei watwar. Ond cyn hir enillodd ei ymarweddiad diargyhoedd a'i ffyddlondeb i'w broffes iddo gydsyniad â'i gais, er y byddai hyny yn fynych "yn nghanol siarad a chwerthin." Teimlodd yr oruchafiaeth hon a roddes y Nefoedd iddo yn gefnogaeth gref iddo i barhau yn y dyfodol yn ffyddlon i Dduw ac i argyhoeddiadau ei gydwybod ei hun.

Cawn ef tra yn yr ardal hon yn cysegru ei holl oriau hamddenol i wasanaeth crefydd a dirwest. "Yr wyf yn llawn llafur bob nos," ebai wrth ei rieni, "naill ai dros ddirwest, neu mewn cyfarfodydd gweddïau, societies, &c., &c." Fel yn ei ardal enedigol, yr oedd y Diwygiad dirwestol yn rhedeg gyda nerth mawr y pryd hwn trwy holl amgylchoedd Llanwddyn. Gelwid ef yn fynych i wahanol fanau i gynal cyfarfodydd dirwestol. Un noswaith aeth i gyfarfod lle yr oedd cyhoeddiad Mr Robert Parry (Robin Ddu o Eryri) i areithio. Methodd yr areithydd poblogaidd ddyfod yno. Galwodd y llywydd ar ein gwron ieuanc o Sardis i anerch y dorf siomedig. Gwnaeth hyny gyda nerth ac effeithiolrwydd nodedig, yr hyn a ychwanegodd lawer at ei boblogrwydd. Nid oedd pawb, mae yn wir, wedi eu boddhau ganddo. Pwy a all foddhau cenfigen? Beiai rhai y llywydd am alw bachgen mor ieuanc a dinôd i lanw bwlch mor bwysig. "Gadewch iddo," atebai yntau, "chwi gewch weled y daw Evan Jones yn ddyn, os caiff fyw."

Effaith yr areithio a'r llafurio diorphwys yn mhob modd o blaid Dirwest a phob achos da oedd enyn awydd yn y brodyr yn Sardis am eangu cylch ei lafur, a'i ddyrchafu i'r pulpud. Yr arweinydd yn y symudiad hwn oedd yr hen ddiacon a'r bardd, Mr Thomas Williams (Eos Gwynfa), awdwr "Telyn Seion," a thad Mr. Joseph Williams, Llansilin. Er fod uchelgais barddol Evan Jones fel Ieuan Gwynedd yn llawer llai na'r eiddo ef fel Eos Gwynfa, diau fod yr adgof fod yr areithiwr ieuanc yn un o feibion ffafredig yr Awen hefyd, yn danwydd ychwanegol i'w zel drosto yn yr achos hwn. Yr oedd y gweinidog, y Parch. Morris Hughes, yn gefnogydd ffyddlawn iddo yn hyn. Nid oedd y frawdoliaeth oll felly, Mewn cyfarfod ar ol y moddion un boreu Sabboth, cynghorai rhai o'r brodyr i grefyddwr mor ieuanc aros rhyw ysbaid yn hwy cyn ymaflyd mewn gwaith mor bwysig. Ail rwygo hen friwiau ei galon oedd hyn. Torai allan i wylo, ac yn ffrydiau ei ddagrau ef y boddwyd pob gwrthwynebiad. Aeth Mr. Joseph Williams ac yntau trwy y prawf eglwysig yr un pryd. Ei gofnodiad yn ei Ddyddlyfr am y Sabboth dilynol, pryd y pregethodd am y waith gyntaf, ydyw, "Mawrth 18,