Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun—"Diwrnod gweddol o ran profiad crefyddol; ond hiraeth am Dŷ fy Nhad a'r Ddinas a breswylia fy Nuw.—Diwrnod lled isel; yn ofni colli gwedd wyneb fy Nuw oherwydd fy aml bechodau yn ei erbyn. O Arglwydd, gwared fi rhag drwg!—Tywyll iawn! Methu cadw fy ngolwg ar Bentywysog a Pherffeithydd fy ffydd. O datguddia dy ogoniant!—Pwys fy meiau bron a'm suddo. O Arglwydd, cynal fi i fyny yn fy nhywydd! glanha fi oddiwrth fy meiau cuddiedig. Ei bechodau ei hun ydyw gofidiau penaf y duwiol. A ydynt yn gofidio digon arnaf fi? O na bawn rydd!—Dyddiau sychlyd. Dyfrha fy enaid â'r dwfr bywiol o Ffynon Pen Calfaria.—Meddwl fy mod weithiau yn ymorphwys yn llwyr ar fy Nuw; ond rhyw bethau yn aml yn cymylu ar fy enaid. O na bawn yn gweled yn fwy clir! Dyro i mi dy oleuni nefol, O fy Nuw!—Diwrnod lled dda. Wedi cael ymadael ychydig â'r pridd tomlyd. O dyro olwg ar y wlad lle y mae pleserau a barhant byth!—Tòn ar ol tòn sydd yn curo ar fy meddwl prudd. Dyddana fi, O fy Nuw, â golwg ar dy gariad.—Os ydwyf yn dlawd, y mae genyf Dduw holl-gyfoethog, yr hwn a ddichon 'godi y tlawd o'r llwch, a dyrchafu yr angenus o'r domen, &c.'—Fy nghystudd yn parhau eto. Bydded i fy Ior fy ngwneyd yn fwy sanctaidd yn feunyddiol. Af yn mlaen trwy fy holl elynion, yn ei nerth Ef, gan lwyr benderfynu teithio tua phreswylfod dragwyddol fy Nuw. O dyro dy nerth!"

Wedi dechreu ar waith y weinidogaeth yn Llanwddyn, cawn gofnodau fel y rhai hyn: "1838, Mawrth 14eg, Sardis. Nerthed yr Arglwydd fi at yr hwyr. Yr wyf i sefyll prawf pwysig yn y gymdeithas eglwysig, sef i fyned yn bregethwr. Rho dy nerth! Pwy sydd ddigonol?—O, fy Nuw, gwna fi fel pren planedig yn dy winllan!—Bum yn areithio. Hwyl led dda. O, cymered yr Arglwydd fi yn offeryn yn ei law i wneyd llawer o ddaioni!—Diolch i'r Arglwydd am ei holl wenau arnaf. Rhodded i mi o lewyrch ei wyneb yn barhaus, fel y gogoneddwyf Ef tra yma ar y ddaear. 'Efe a ddwg allan fy nghyfiawnder fel y goleuni, a'm barn fel haner dydd.'—Gwnaed yr Arglwydd fi yn un o'i lafurwyr yma ar y ddaear, ac yn un o'i berlau yn y Nef. Diolch iddo am fy nghynorthwyo i, un gwael, annheilwng, i fod o ryw ddefnydd drosto yn y byd. Rhodded ei ras i'm cadw yn ostyngedig.—Diolch i'r Arglwydd am ambell i belydr o'i foddlonrwydd y mae yn ei roddi i mi yn y dyddiau hyn. Rhodded fwy, i'm nerthu i ddwyn y groes, ac i ddiystyru gwaradwydd.—Er cael gwrthwynebiadau, ni wiw digaloni. Tröed y cyfan yn y diwedd yn lles, ac yn nerth i'w ogoneddu Ef. Sabboth lled dda. Gogonedder dy enw ynof, O fy Nuw, a boed i'r byd gael gweled mai Tydi a'm hanfonaist i."—Ond dyma ddigon—digon i weled yr hyn ydoedd "cuddiedig ddyn calon" y llenor a'r pregethwr ieuanc oddimewn, pa beth bynag arall yr ymddangosai i'w gyd-ddynion. Tra y gwelai llawer llygad dynol o'i amgylch bethau oddiallan iddo i enyn eu rhagfarn a'u dirmyg, gwelai Llygad Mawr y Nef o'i fewn, fel y gwelir uchod, olygfeydd o'r fath a garai enaid ieuanc yn "hiraethu" am dano ef, fel "yr hydd am yr afonydd dyfroedd"—yn teimlo amlygiadau o'i bresenoldeb a'i fodd