Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lonrwydd ef, gallu gogoneddu ei enw, ac ymostwng i'w ewyllys ef, fel y penaf o'i holl ddymuniadau; a cholli yr ymdeimlad mewnol o'i arweiniad tadol ef fel y dyfnaf o'i holl drallodion—mewn gair, gwelai Ef ei Hun yn "oll yn oll" yn myd bychan yr enaid hwnw.

PENNOD V.

EI HANES YN EFRYDYDD A BUGAIL YN MARTON.

CYNWYSIAD:—Ei dderbyniad i'r Ysgol Barotoawl yn Marton—ei gydefrydwyr— ei ymroddiad i'w efrydiau, yn arbenig i'r Saesonaeg—yn dysgu Llaw-fer—ar daith bregethwrol, a'i gasgliadau oddiwrth yr hyn a welodd—marwolaeth yr athraw, Mr. Jones, yntau dan addysg yn Minsterley—un fugail yn Marton a Forden—annuwioldeb yr ardal, a'i ymroddiad i'w wrthweithio—yn ymgyfamodi a Miss Sankey i briodi y ddadl gofiadwy rhwng y Parch. L. Edwards, Bala, a S. Roberts, Llanbrynmair—cais i'w gael yn weinidog sefydlog yn Marton, a'i resymau dros ei wrthod—engraifft o'i gariad mabaidd ei gymeriad cyffredinol yn Marton—dirgelwch ei lwyddiant trwy ei oes—yn ym adael o Marton.

YN Hydref, 1839, yn 19 mlwydd oed, derbyniwyd Evan Jones i ysgol barotoawl y Parch. J. Jones, Marton, yn Sir Amwythig. Yr oedd ei gyfaill Edward Roberts eisoes yno. Yno hefyd y ffurfiodd gyfeillgarwch â chylch o wŷr ieuainc galluog eraill, a ddaethant wedi hyny, fel yntau, yn wŷr o safle anrhydeddus yn eu Cyfundeb a'u gwlad, megys, y Parch. S. Jones (Maentwrog), Thomas Roberts (Llanrwst), J. Thomas (Liverpool), &c. , &c. Yr oedd y Parch. J. Jones yn ysgolaig da ac yn athraw llafurus, a chyfrifai Evan Jones ei dderbyniad i'w ysgol yn ffafr arbenig y Nef. Ei gofnodiad yn ei Ddyddlyfr ar ei dderbyniad iddi ydyw, "Yr ydwyf yn gweddïo ar i Dduw, o'i fawr drugaredd, ganiatau i mi y pethau hyn— 1. Cael byw yma i ogoneddu ei enw. Bydd yn well genyf farw na'i ddianrhydeddu Ef 2. Iddo fy ngalluogi i ddysgu digon i fod yn ddefnyddiol yn ei winllan yma ar y ddaear, a fy nghymhwyso i gael 'rhan o etifeddiaeth y saint' yma ac 'yn y Goleuni.' 3. Cael marw mor gynted ag y byddaf yn ddifudd i'r byd. Yr ydwyf yn cyflwyno fy hun i hyn i fy anwyl Waredwr. Amen."

Gwelsom eisoes mai fel "yr hydd am yr afonydd dyfroedd" y sychedai Evan Jones o'i febyd am ffynonau gwybodaeth, ac hefyd mor ychydig o fanteision a gawsai erioed er diwallu y syched hwnw. Wele yr hydd ieuanc o'r diwedd yn cael ei hun wrth ffynon loew, lawn o'r dyfroedd a garai, ac afreidiol ydyw dyweyd iddo wneyd y defnydd goreu o honi. Ymroddodd â'i holl fryd i feistroli pob cangen o wybodaeth a ddysgid yno. Fel pob Cymro ieuanc call, rhoddai y pwys mwyaf ar wybodaeth wyddorol drwyadl o'r iaith