Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o hen famau mwyaf hybarch Eglwys y Brithdir. Hoffai ei chymeriad a'i chyfeillach yn fawr er yn blentyn. Yr oedd erbyn hyn mewn gwth o oedran, ac mor addfed i'r Nefoedd ag ydoedd i'r bedd. Yn ystod yr ymddyddan gofynai yr hen chwaer, "Yn mh'le 'rwyt ti arni hi erbyn hyn, Evan bach"—"Yn y Coleg, modryb." "Yn y Coleg byth! Wel, rhyfedd iawn, yno 'roeddit ti bob tro y buost ti yma er's dros dair blynedd yn ol! Yr oeddwn i yn meddwl bob amser fod gen' ti bladur go dda, un hawdd ei hogi. Sut y mae hi fel hyn arnat ti, machgen i? Mae arna' i ofn, Evan bach, y bydd y cynhauaf drosodd tra byddi di yn hogi dy bladur." Lled debyg oedd atebiad ffraeth y diweddar Dafydd Rolant o'r Bala, yn ngorlawnder ei "ysbryd pregethu" pan yn ysgol barotoawl y Parch. John Hughes, yn Wrexham, i'r Parch. J. Elias, yr hwn a'i hanogai i lafurio yno am ddysgeidiaeth, "Pa ddyben i mi fod yma, syr, yn hogi fy mhladur, a'r cynhauaf yn barod ar y maes gartref acw?" Yr oedd atebion hyn yr hen chwaer a'r pregethwr ieuanc aiddgar yn ddigon pert, ond yn gwbl gyfeiliornus am "gynhauaf" oedd nid yn unig i barhau, ond i gynyddu yn ei eangder a'i bwysigrwydd hyd "ddiwedd y byd." Fel mewn rhyfeloedd eraill, felly yn "rhyfeloedd y Groes," ymddibyna gwerth milwr i'w Frenin fwy ar berffeithrwydd ei ddysgyblaeth barotoawl a'i fedrusrwydd milwrol, a'r safle moesol a enilla trwy hyny yn ei fyddin, nag ar ei deyrngarwch na'i ddewrder, nac ar hyd tymor ei wasanaeth. Pe y teyrngarwch cywiraf i luman Prydain a'r dewrder mwyaf anorchfygol yn ymladd dano fuasent yn gwneyd Wellingtons, buasai miloedd o honynt ar faes Waterloo. Yr oedd Dafydd Rolant mor deyrngarol ac mor ddewr dros luman Tywysog y Bywyd a John Elias, a bu flwyddyn yn hŵy nag ef—31 mlynedd—ar faes y frwydr, neu, i ddilyn ei ffugyr ef ei hun, ar faes "y cynhauaf;" ond y fath wahaniaeth yn eu gwerth a'u gwasanaeth i'w Harglwydd ac i'w gwlad! Paham? Dyna yn syml paham—rhoddasai John Elias ei holl fryd a'i lafur i wneyd ei hun yr hyn yr anogai Dafydd Rolant i'w wneyd—i ymroddi i arfogi ei hun â phob gwybodaeth, dduwinyddol, ieithyddol, a chyffredinol, angenrheidiol i'w waith mawr, neu ynte, yn iaith Dafydd Rolant, i "hogi pladur" ei feddwl, a'i wneyd yn fwyfwy minllym, er cyflawni mwyfwy o waith dros Arglwydd y cynhanaf hyd derfyn ei ddydd. Dyma Evan Jones drachefn; ni pharhaodd ei yıfa gyhoeddus ef, o'i urddiad yn weinidog hyd ei farwolaeth, ond tua 6 mlynedd; ac eto y fath gyfanswm anfertb o waith sylweddol a allodd ei gyflawni mewn ysbaid mor fyr! Yr un paham sydd i'w roddi am dano yntau—ei ddyfalwch diorphwys yn "hogi ei bladur" feddyliol yn Marton, Minsterley, ac Aberhonddu, cyn ymgysegru i'w waith ar faes y cynhauaf. Ond i ba beth y nodwn engreifftiau unigol? O'r gwirioneddau aneirif a ddysgir gan holl hanes Eglwys Crist a'r Weinidogaeth Gristionogol trwy y deunaw canrif a aethant heibio, nid oes un gwirionedd a ddysgir ganddynt yn fwy unllais ac arbenig na gwerth anmhrisiadwy meddwl diwylliedig a dysgeidiaeth ddofn, eang, i bob ymgeisydd am,yr “alwedigaeth nefol," a'r augenrheidrwydd hanfodol am