Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y plentyn ei hun i dalu am ei ysgol. Hefyd, yr oedd yr ysgol hono i fod dan lywodraeth saith o ymddiriedolwyr, sef, offeiriad y plwyf, y cadeirydd; dau warden yr Eglwys, a phedwar eraill a ddewisid gan yr heddynadon. Yr oedd yr ysgolfeistr a ddewisai yr ymddiriedolwyr hyn i fod yn ddarostyngedig drachefn i gymeradwyaeth yr Esgob, a holl addysg grefyddol yr ysgol i fod dan reolaeth yr offeiriad. Yr oedd un o bob tair o oriau yr ysgol i gael ei threulio mewn gweinyddu addysg grefyddol i'r plant yn Nghatecism a Llyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys, a llyfrau eraill a ddewisai yr offeiriad, ac yr oedd yr addysg hon i gael ei gweinyddu iddynt yn yr Ysgol ar y Sabbothau a'r Gwyliau Eglwysig, fel ar ddyddiau cyffredin yr wythnos. Nid ymddangosai yr addysg fydol yn yr ysgrif hon ond fel esgus i lefeinio y wlad âg egwyddorion Eglwysyddiaeth. Fel y gallesid rhagweled, cynyrchodd ddychryn, digofaint, a gwrthwynebiad dirfawr trwy holl gylchoedd Ymneillduol y deyrnas, ac yn mysg y dosbarth mwyaf egwyddorol o'r Eglwyswyr eu hunain. Yma yn Nghymru Ymneillduol yr oedd y teimlad yn ei herbyn yn arbenig o gryf—yn angerddol. Yr oedd y fath fwyafrif mawr yma yn Ymneillduwyr, a'n plant yn treulio y Sabbothau dan addysg grefyddol yn ein Hysgolion Sabbothol a'n moddion eraill ein hunain, fel yr oedd yr Ysgrif hon yn ergyd uniongyrchol at fywyd y werthfawrocaf a'r anwylaf o'n holl sefydliadau—gogoniant penaf ein gwlad yr Ysgol Sabbothol. Cynelid cyfarfodydd brwdfrydig trwy yr holl Dywysogaeth i wrthdystio yn ei herbyn. Nid ymfoddlonid ar gyfarfodydd felly; ond, yn ymwybodol o nerth dirfawr y dylanwad Eglwysig oedd yn gefn i'r gormeswr yn Lloegr, yn enwedig yn nau Dŷ ein Senedd, cynelid cyfarfodydd gweddi gan yr Ymneillduwyr yn mhob parth o'r wlad am i'r Duw a drodd gynghor Ahitophel yn ynfydrwydd beri yr un dynged i'r cynghor hwn, a chadw i ni ein rhyddid a'n breintiau crefyddol a brynesid i ni â gwaed ein tadau. Yr oedd tafod ac ysgrifbin ein hefrydydd ieuanc o Aberhonddu ar lawn waith yn erbyn yr Ysgrif hon yn y Newyddiaduron ac ar yr esgynloriau yn y dref a'r amgylchoedd hyny. Yn y blynyddoedd hyn hefyd yr oedd brwydr fawr Masnach Rydd, dan arweiniad Cobden a Bright, yn myned yn boethach boethach yn barhaus. Deuai ein gwron ieuanc brwdfrydig allan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, Cymreig a Seisonig, yn Aberhonddu a threfydd eraill, gyda medr ac effeithiolrwydd nodedig, o blaid dynoliaeth a chyfiawnder y Mesur mawr hwnw. Yn un o'r cyfarfodydd Seisonig yn Aberhonddu, yn yr hwn y siaradai Evan Jones, meddai adroddiad y Silurian o hono, "with forcible eloquence," holai cyfreithiwr yn ystod ei araith pwy ydoedd, a'i reswm oedd, "why the devil is a clever fellow." Nid esgeulusai un cyfle i ddadlu o blaid yr achos Dirwestol mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Un o brif wroniaid Dirwest yn yr ardaloedd hyny ydoedd. Yn ei deithiau pregethwrol rhoddid ef i letya mewn tafarndai. Weithiau ymdrechai achub y cyfle i ddadlu yr achos gyda'r diotwyr yno—i "ymladd â Satan," ys dywedai yntau, "ar ei diriogaeth ei hun;" a chafodd fwy nag