Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymofyngar Cymru. Wedi cyfansoddi chwech o adranau arweiniol ar "Sylfaenydd" Cristionogaeth gorfododd afiechyd ef i roddi ei fwriad i fyny. Eu bod fel hyn yn anghyflawn oedd ein hunig reswm am eu gadael allan o'r gyfrol o'i Weithiau, gan eu bod, hyd y maent yn cyrhaedd, yn engreifftiau tra ffafrol o'i alluoedd fel duwinydd. Yr oedd holl hanes ei fywyd yn yr Athrofa yn rhagargoeli yn eglur y byddai iddo, os cai fyw i hyny, gymeryd rhyw ran bwysig yn mhob symudiadau cyhoeddus, crefyddol a gwladol, er goleuo a dyrchafu ei wlad mewn crefydd, gwybodaeth, a moesoldeb—ac felly y bu.

Yn Aberhonddu y llwyddodd gyntaf i gasglu yn nghyd ddim tebyg i Lyfrgell. Yn Medi, 1844, cawn y cofnodiad cysurlawn hwu: "Yr ydwyf newydd osod fy llyfrgell fechan i fyny. Y mae yn cynyddu, ac erbyn hyn dros 120 o gyfrolau. Costiodd i mi dros £30. Gallaf yn wir ddyweyd fod fy llyfrgell yn dduciaeth i mi, oherwydd y hi ydyw fy oll." Yma yn unigrwydd ei lyfrgell y treuliai ei oriau hamddenol, yn darllen, myfyrio, a chyfansoddi—yn ychwanegu at gyfoeth ei feddwl, a'i allu i ddylanwadu yn fwy effeithiol wedi hyny ar yr eglwys a'r byd oddiallan.

Fel yr efrydwyr eraill, treuliai ddysbeidiau (vacations) haner-blynyddol yr Athrofa yn casglu ar hyd y Siroedd tuag ati, neu yn gweini mewn lleoedd oedd heb weinidogion sefydlog. Ei gas waith oedd teithio a chasglu arian, oherwydd y llafur corff a'r pryder meddwl cysylltiedig â hyny. Ond teithio a chasglu oedd raid neu ymadael o'r Athrofa. Rhydd y dyfyniad canlynol syniad am ei lafur teithiol ef a'r efrydwyr eraill ar yr adegau hyn. Dywed am un o honynt, "Y mae naw wythnos wedi myned heibio er pan ymadewais o Aberhonddu. Teithiais yn ystod y rhai hyn dros 500 o filldiroedd, dros 300 o ba rai a gerddais; ac i ddychwelyd i Aberhonddu, rhaid i mi deithio eto 160 o leiaf.Anerchais dros 80 o gyfarfodydd cyhoeddus." Trwy y teithiau pregethwrol hyn a'i fuddugoliaethau llenyddol, daeth ei enw a'i alluoedd cyn hir yn hysbys i luaws o eglwysi. Yn ystod pedair blynedd ei yrfa Athrofaol, derbyniodd alwad oddiwrth saith neu wyth o eglwysi i ddyfod yn weinidog iddynt—rhai o honynt yn haelionus a deniadol, oud oll yr un mor ofer i'w ddenu ef o'r Athrofa cyn terfyniad tymor rheolaidd ei efrydiaeth. Amlygodd llawer eglwys gydymdeimlad canmoladwy âg ef yn ei deithiau hyn. Anrhegodd eglwys Beaumaris ef â suit ddu gyflawn o ddillad; a pherffeithiodd brawd meddylgar o grydd yno y caredigrwydd â rhodd arall—dra phwrpasol i un oedd yn olynydd diamheuol i'r apostolion yn eu dull o deithio, o leiaf—pâr cryf o Bluchers. Cawn eglwys Sirhowy yn gwneyd caredigrwydd cyffelyb âg ef wedi hyny. Yr oedd trafodaeth eglwys Talybont, Sir Aberteifi, âg ef braidd yn ddyddorol. Buasai yn gwasanaethu yno amryw weithiau o Marton ac Aberhonddu, wedi ymadawiad y Parch, M. Ellis oddiyno i Fynyddislwyn yn 1839. Coronesid ei ymweliadau â chymeradwyaeth eglur y Nef a'r eglwys luosog yn y lle. Yn 1844, pan yn Aberhonddu, rhoddodd yr eglwys iddo alwad taer i ddyfod yn fugail parhaus iddi. Cynaliwyd llawer