Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfod brwdfrydig ar yr achos, a lleihai nifer y gwrthwynebwyr yn mhob cyfarfod olynol, nes y cyrhaeddwyd unfrydedd a ystyriai rhai brodyr yno bron yn wyrthiol mewn eglwys a fuasai am flynyddau yn ysglyfaeth i'r ymbleidiau mwyaf anffodus. Yn y cyfarfod eglwysig terfynol ar yr achos, wedi eu bedyddio yn helaeth âg ysbryd nefol cariad, tystiai brawd, a fuasai yn un o brif wrthwynebwyr yr alwad, iddo weled gweledigaeth o angylion yno! Sicrhai hefyd eu bod yn llawenychu!! Ffaith lythyrenol wyrthiol oedd hon—os ffaith hefyd. Credai y brawd fod gan yr angylion fwy o fantais na neb oedd yno i wybod ewyllys yr Arglwydd ar yr achos, ac fod y llawenydd a amlygent yn brawf eglur eu bod hwy yn cyflawni ewyllys yr Arglwydd wrth roddi galwad i'w was ieuanc atynt. Ond er y weledigaeth a'r rhagarwyddion dymunol hyn, anufudd a fu Evan Jones i'r "weledigaeth nefol." Nid oedd o'r un farn a'r angylion a'r brodyr yno am ewyllys yr Arglwydd gyda golwg ar lwybr ei ddyledswydd ef; ac eglur iawn y profodd ei holl hanes ef wedi hyn mai ei farn ef oedd y gywiraf.

Naturiol iawn oedd i'r galwadau lluosog hyn beri i ddyn ieuanc fel efe, nad oedd ganddo ddim daearol i ymddibynu arno ond ei alluoedd a'i gymeriad ei hun, gymeryd calon. "Y mae yn awr," ebai ar un adeg, "dair o eglwysi yn awyddus i sicrhau fy ngwasanaeth. Yn awr, nid yw hyn cynddrwg. Ni ofynais i un bôd dynol fy argymhell i un o'r eglwysi hyn. Heb arian, heb ddylanwad, yr wyf wedi gweithio fy ffordd hyd yma. Os gwel yr Arglwydd yn dda, yr wyf yn foddlon i lafurio yn mlaen trwy fy mywyd. Yr wyf yn ysgrifenu y ffeithiau hyn, nid mewn ysbryd ymffrostgar, ond unig i ddangos pa fath yw fy rhagolygon, ac fod genyf achos i ddiolch i Dduw, a chymeryd cysur, fy mod yn cael cymaint o ffafr gyda dynion. Mewn gwirionedd, da yw ymddiried yn yr Arglwydd; oblegyd y mae wedi ymddwyn yn haelionus tuag ataf fi. Yr ydwyf yn taer obeithio na bydd i mi gamgymeryd llaw Rhagluniaeth. Byddai yn dristwch tragwyddol i mi, pa bawn yn aberthu mantais achos fy Ngwaredwr trwy ymdrechu gwasanaethu i fy hapusrwydd fy hun. Ni ddylai gwas yr Arglwydd' wneuthur felly, oblegyd fod ei hapusrwydd ef wedi ei sylfaenu ar wneuthur ewyllys ei Arglwydd. Pa mor galed bynag a fyddo y lle a osodir i mi, yr wyf yn hyderu na bydd i mi byth ei osgoi ef. Fy arwyddair a fyddo, Yn mlaen; fy nerth a fyddo, Duw; fy nôd, ei ogoniant Ef, ac yna bydd fy ngwobr yn fawr iawn. Byddaf weithiau yn hiraethu am yr amser pan y caf gysegru holl yni fy meddwl i'r gwaith mawr. Yn awr, ac erioed hyd yn hyn, yr ydwyf wedi fy llyffetheirio gan efrydiau eraill; ond dysgybla y rhai hyn fy meddwl, i'w gymhwyso at y gwaith a all fod yn ei aros ar ol hyn. Yn mhen dwy flynedd byddaf yn gadael y Coleg—pa fath a fydd fy rhagolygon y pryd hwnw? Nid oes un llygad dynol a all dreiddo i'r amser hwnw, pa mor awyddus bynag a fyddo am hyny. Y mae llaw Rhagluniaeth wedi fy arwain yn rhyfedd hyd yn hyn; a diau genyf y bydd i ryw gwmwl niwl a cholofn dân fy arwain eto i rodio ar hyd canol llwybr barn."