Tudalen:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD GAN Y GOLYGYDD


Anwyl Gydwladwyr,

Yr hyn a’m cymhellodd gyntaf i ymgymeryd â pharotoi yr argraffiad hwn o Weithiau y Bardd anfarwol o Bant-y-celyn oedd, yr ystyriaeth nad oeddynt yn nghyrhaedd ein cenedl fel y dylasent fod. Yr unig argraffiad cyflawn o’i Weithiau oedd yr un a gyhoeddwyd gan Mr. Mackenzie yn 1867, o dan olygiad y Parch. J. R. Kilsby Jones. Clywid cwynaw cyffredinol fod plyg hwnw yn anhylaw at ei ddefnyddio; ac yr oedd ei bris uchel yn ei osod o gyrhaedd llawer; ond gwaeth na hyny, gadawyd yn y testyn lawer o’r gwallau a’r cyfnewidiadau oeddynt, yn y naill ffordd a’r llall, wedi dyfod i mewn iddo, heb eu symud.

Y drafferth a’r llafur mwyaf a gefais i barotoi yr Argraffiad presennol oedd, (i) Cael hyd i’r gwahanol argraffiadau o amrywiol gynnyrchion yr Awdwr a gyhoeddwyd dan ei arolygiaeth ef ei hun. Y mae y rhai hyny bellach yn brinion—rhai o honynt yn brinion iawn. Trwy ddyfalwch, llwyddais i gael o un i bedwar o argraffiadau gwahanol o yn agos ei holl gynnyrchion. (2) Cymharu yr argraffiadau hyny â’u gilydd, fel ag i gael y testyn mor berífaith ag y gallwn i’r ystad yn yr hon yr ewyllysiai yr Awdwr ei adael. Yn fynych yr oedd y synwyr neu yr ystyr oedd i’w linellau yn dibynu ar gyflead yr attalnodau; a gŵyr pawb ag