Tudalen:Gweithiau William Pant-y-Celyn, cyfrol 1 (IA pantycelyn gweithiau1).pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn gynnefinn â'r llyfrau a ddaethant trwy y wasg Gymreig yn y Ganrif ddiweddaf pa can lleied o sylw a delid i attalnodi yr amser hwnw. Ond yr oedd gallu cymharu dau neu dri o argraffiadau gwahanol yn llawer o help pan mewn dyryswch. Gwnaethom ammod â ni ein hunain nad oeddem i newid un gair; ac er pob temtasiwn i wnenthur cymwynas (?) yn awr ac yn y man âg Awdwr ag y mae genym gymaint o barch iddo, buom yn ffyddlawn i'r ammod hwnw, heb newid dim ond yn unig ambell air a gyfarfyddid yn bur anaml ag y gorfodid ni i gredu mai gair a ddaeth i mewn yn amryfus, ac nid o fwriad, ydoedd.

Arferai Williams ysgrifenu "ei gyd," ac, weithian yn lluosog, eu gyd,” am “i gyd;" peth na welsom un awdwr arall, hen na diweddar, yn ei arfer. Ni ddilynwyd ef yma yn hyny. Yn yr argraffiadau o Weithiau y Bardd a gyhoeddwyd gan ei fab, y Parch. John Williams, fel yn yr argraffiadau diweddarach, cyfarfyddir beunydd â'r geiriau maes, croes, oen, &c., wedi eu hysgrifenu yn ma's, cro's, o'n, &c. ; ond y mae y meflau hyny i'w priodoli i'r mab yn hytrach nag i'r tad. Yn yr argraffiadau dan olygiad Williams eî hun, y rhan fynychaf o lawer, pan-y byddai y geiriau. uchod yn cyfodli â gras, loes, oen, &c., canîatâi efe iddynt gael eu holl aelodau yn gyflawn. Felly y gwnaethom ninnau.

Mor bell ag y rhoddir pwys ar gael cyfargraff gywir a dilys o odlau ein Pen GANIEDYDD, yr wyf yn dysgwyl y caiff ein cydgenedl yma well argraffiad nag a gawsant er dyddiau Williams ei hun. Yr wyf yn gobeithio hefyd, pa ddiffygion bynag a allant. fod yn nghyflawniad y gwaith a berthynai i mi, nad ydynt yn gyfryw ag a bâr i'r Gymanfa ofidio am fy nghymhell i ymgymeryd âg ef.

Dylwn gydnabod fy nyled i gyfeilion a echwynasant i mi gopïau henafol o amraì o weithiau yr Awdwr, ac yr wyf yma yn. dioîch yn gyhoeddus iddynt am eu caredigrwydd :—y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool; y Parch. D. Williams, Trecastell; Mr. Hamer Jones, Bettws, Maldwyn ; Mr. Edward Evans, Llanrhaiadr mochnant; Mr. E. Griffiths, U.H., Dolgellau; a Mr. Woodin, Bulah, Brycheiniog. Y mae un arall ag y cefais gyffelyb gymhorth ganddo, y diweddar Barch. Ddr, J. Jenkins, Llanfairmuallt; ond y mae efe wedi dianc o gyrhaedd ein diolch gwael ni.

Iê, ië, yr wyf yn diolch yn fawr hefyd i'r mil a mwy caredigion llêngar a roisant eu henwau fel Tanysgrifwyr at y gwaith.

Bwriedir i'r Ail Gyfrol—yr hon a ddygir trwy y wasg mor ddiymaros ag y gellir—gynnwys Hymnau Williams, a'i ysgrifeniadau Rhyddiaethol.

Yr eiddoch yn wir,

Gydwladwyr caredig,

N. CYNHAFAL JONES.

LLANIDLOES,

Mawrth 25, 1887.