Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond pan oedd y rhai hyn ar dderbyn y farn uffernol oll, dyma ddeugain o Ysgolheigion yn dyfod ger bron ar lamidyddion[1] o ddiawliaid gwrthunach, petai bosibl, na Luciffer ei hun. A phan glybu yr ysgolheigion y llafurwyr yn ymresymu, hwy a ddechreuasant yn hyfach ymesgusodi. Ond, O! barFoted yr oedd yr hen Sarff yn eu hateb hwythau, er maint eu dichell a'u dysgeidiaeth. Eithr gan ddygwydd i mi weled y cyffelyb ddadleuon mewn brawdle arall, mi rof yno hanes y cwbl tan un; ac a fynegaf yr awran it' beth a welais nesaf yn y cyfamser.

Prin y traethasai Luciffer y farn ar y rhai hyn, a'u gyruam oered eu rhesymau i'r ysblent fawr yng Ngwlad yr ia tragwyddol, a hwythau yn dechreu rhincian eu dannedd eisys cyn gweled eu carchar, dyma uffern eilwaith yn dechreu dadseinio yn aruthrol, gan ergydion ofnadwy, a tharanau croch rhuadwy, a phob swn rhyfel; gwelwn Luciffer yn duo ac yn delwi; yn y mynyd, daeth ysguthell[2] o ddieflyn carngam i mewn tan ddyhead a chrynu. Beth yw'r mater?' ebr Luciffer. 'Y mater peryclaf i chwi er pan yw uffern yn uffern,' ebr y bach; 'mae holl eithafoedd teyrnas y tywyllwch wedi tori allan i'ch erbyn, a phawb yn erbyn eu gilydd, yn enwedig y sawl oedd â hen alanasdra rhynddynt, ddant yn nant, nad yw bosibl eu tynu oddi wrth eu gilydd. Mae'r Sawdwyr benben â'r Physigwyr, am ddwyn eu trad lladd. Mae myrdd o Logwyr bonbon â'r Cyfreithwyr, am fynu rhan o'r trad ysbeilio. Mae'r Cwestwyr a'r Hwndlwyr ar falu y boneddigion, am dyngu a rhegu heb raid, lle yr oeddynt hwy yn byw wrth y trad. Mae'r Puteiniaid a'u cymdeithion, a myrddiwn ereill o hen geraint a chyfeillion gynt, wedi syrthio allan yn chwilfriw. Ond gwaeth na dim yw'r gad sy rhwng yr hen Gybyddion a'u plant eu hunain, am afradloni'r da a'r arian a gostiodd i ni (medd y cotiaid) gryn boen ar y ddaiar, ac anfeidrol ing yma dros byth a'r meibion, o'r tu arall, yn rhegu ac yn rhwygo'r cribinwyr[3] yn felltigedig, gan roddi eu galanasdra tragwyddol ar eu tadau, am adael iddynt ugain gormod i'w gwallgofi o

falchder ac oferedd, lle gallasai ychydig bach, gyda bendith, eu

  1. 'Llamidyddion' (o llamu)=llamwyr; rhai yn arfer llamu neu neidio.
  2. Ysguthell'=rhedegydd ar frys gwyllt; un a fo yn ysgubo neu hwysgo'r cwbl o'i flaen; hedegydd, hedwr, ysgutyll; rhedegwas.
  3. Cribinwyr'=rhai yn cribinio, yn crafu, neu yn rhacanu pob peth atynt eu hunain; pentyrwyr mwnws; cybyddion, cotiaid.