Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneyd yn hapus yn eu dau fyd.[1] 'Wel,' ebr Luciffer, digon, digon! rheitiach arfau na geiriau. Ewch yn ol,' ebr ef, Syre, ac ysbiwch ym mhob gwyliadwriaeth, pa le bu yr esgeulusdra mawr hwn, a pheth yw yr achos: canys mae rhyw ddrygau allan na wyddys eto.' Ymaith â hwnw ar y gair; ac yn y cyfamser cododd Luciffor a'i benaethiaid mewn braw ac arswyd mawr, a pharodd gasglu'r byddinoedd dewraf o'r angylion duon; ac wedi eu trefnu, cychwynodd ei hun allan ym mlaenaf i ostegu'r gwrthryfel, a'r penaethiaid a'u lluoedd hwythau ffyrdd ereill.

Cyn i'r fyddin freninol fyned yn neppell, fel mellt hyd y fagddu hyll (a ninnau o'u lledol), dyma'r trwst yn dyfod i'w chyfhwrdd. Gosteg, yn enw'r brenin!' ebr rhyw fonllefwr cythreulig. Nid oedd dim clywed; haws tynu'r hen afanc[2] o'i gafael nag un o'r rhai hyn. Ond pan darawodd hen sawdwyr profedig Luciffer yn eu plith, dechreuodd y chwyrnu a'r ymdolcio a'r ergydion laryeiddio. Gosteg yn enw Luciffer!' ebr y crochlefwr eilwaith. 'Beth ydyw'r mater,' ebr y brenin; 'a phwy yw y rhai hyn?' Atebwyd, 'Nid oes yma ddim ond darfod, yn y cythryfwl cyffredin, i'r Porthmyn daro wrth y Cycwalltiaid,[3] a myned i ymhyrddio, i brofi pa'r un oedd galetaf eu cyrn; ac hi a allasai fyned yn hen ymgornio, oni buasai i'ch cawri corniog chwithau daro i mewn.' Wel,' ebr Luciffer, gan eich bod oll mor barod eich arfau, trowch gyda mi i gystwyo'r[4] terfysgwyr ereill.' Ond pan aeth y si at y gwrthryfelwyr ereill, fod Luciffer yn dyfod â thair byddin gorniog i'w herbyn, ceisiodd pawb i'w wâl.

Ac felly ym mlaen yn ddiwrthwyneb yr aeth Luciffer, hyd y gwylltoedd dinystriol, tan holi a chwilio beth oedd dechreu'r cynhwrf, heb air son. Ond ym mhen ennyd, dyma un o ysbiwyr y brenin wedi dychwelyd, ac â'i anadl yn ei wddf: 'O ardderchocaf Luciffer,' ebr ef, 'mae'r tywysog Moloc wedi gostegu peth o'r Gogledd, a darnio miloedd ar draws yr

  1. Gwel L'Estrange's Quevedo, t. 168.
  2. Tri phrif orchestwaith Ynys Prydain: Llong Nefydd Naf Neifion, a ddug ynddi wryw a benyw o bob byw, ban dores Llyn Llion; ac Ychain Banog Hu Gadarn, a lusgasant Afanc y Llyn i dir, ac ni thores y llyn mwyach; a Main Gwyddon Ganhebon, lle y darllenid arnynt holl gelfyddydau a gwybodau byd.'—Trioedd.
    Addane ni thynir o anoddyn dwfr.—L. G. Cothi.
  3. Cwcwaldiaid,' arg. 1703. Gwel t. 82, n. 5.
  4. Cospi; ceryddu; darostwng.