Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Luciffer,' ebr y Dyfeisiwr, 'drwg iawn genyf fod cymmaint cythryfwl yn eich teyrnas; ond mi a ddysgaf i chwi ffordd well, os caf fi fy ngwrando; nid rhaid i chwi ond yn esgus Parliament ddyfyn y damniaid oll i'r Fallgyrch eirias, ac yna peri i'r diawliaid eu pendifadu bendramwnwgl i geg Annwn, a'u cloi yn y sugnedd, ac yna cewch lonydd ganddynt.' 'Wel,' ebr Luciffer, tan guchio yn dra melltigedig ar y Dyfeisiwr, mae'r Medleiwr cyffredin eto yn ol.' Erbyn ein dyfod eilwaith i gyntedd y llys cythreulig, pwy a ddaeth decaf i gyfhwrdd y brenin, ond y Medleiwr. O fy mrenin,' ebr ef, 'mae i mi air â chwi.' 'Mae i mi un neu ddau â thithau, ond odid,' ebr y Fall. Mi a fûm,' ebr yntau, 'hyd hanner Distryw yn edrych pa fodd yr oedd eich materion chwi yn sefyll. Mae genych lawer o swyddogion yn y Dwyrain heb wneyd affaith,[1] ond eistedd yn lle edrych at boeni eu carcharorion, na'u cadw chwaith; a hyny a barodd y cythryfwl mawr yma. Heb law hyny,' ebr ef, 'mae llawer o'ch diawliaid, ac o'ch damniaid hefyd, a yrasoch i'r byd i demtio, heb ddychwelyd er darfod eu hamser; ac ereill wedi dyfod, yn llechu, yn lle rhoi cyfrif o'u negesau.

Yna parodd Luciffer i'w grochlefwr gyhoeddi Parliament drachefn; ac ni bu yr holl benaethiaid a'u swyddogion dro llaw[2] yn ymgyfhwrdd i wneyd yr eisteddfod gythreulig i fyny eilwaith. Cyntaf peth a wnaed oedd newid swyddogion, a pheri gwneyd lle o amgylch ceg Annwn i'r Rhodroswr a'r Farchoges drwyndrwyn; ac i'r terfysgwyr ereill yn rhwym dinben drosben; a rhoi allan gyfraith pa ddieflyn neu gollddyn bynag a droseddai ei swydd rhag llaw, y cai ei fwrw yno rhyngddynt hyd ddydd-farn. Wrth y geiriau hyn gwelid yr holl erchyllion, ie, Luciffer ei hun, yn crynu ac yn cythruddo. Nesaf peth fu alw i gyfrif rai diawliaid a rhai damniaid, a yrasid i'r byd i hel cymdeithion: a'r diawliaid yn dywedyd eu hanes yn deg; ond yr oedd rhai o'r damniaid yn gloff yn eu cyfrif, ac a yrwyd i'r ysgol boeth, ac a sewrsiwyd â seirff clymog tanllyd, eisieu dysgu yn well.

Dyma fenyw lân, pan ymwisgo hi,' ebr diawl bach, 'a yrwyd i fyny i'r byd, i hel i chwi ddeiliaid gerfydd eu canolau; ac i bwy yr ymgynnygiai hi, ond i ryw weithiwr llafurus yn

  1. Effaith cydfrad: help neu gymhorth i arall yng nghyflawniad drwg weithred; cynnorthwy; gwaith.
  2. Dro llaw='yn nhro llaw; yn ebrwydd; mewn dim o amser.