Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ddamniaid, yn llusgo dau gythraul ger bron. 'Wel,' ebr y cyhuddwr, 'rhag i chwi fwrw yr holl gam negeswriaeth ar hil Adda, dyma,' eb ef, ddau o'ch hen angylion a gamdreuliodd eu hamser uchod cynddrwg a'r ddau o'r blaen. Dyna walch ail i hwnw yn y Mwythig, y dydd arall, ar ganol Interlud y Doctor Ffaustus;[1] a rhai (yn ol yr arfer) yn godinebu â'u llygaid; a rhai â'u dwylo; ereill yn llunio cyfarfod i'r un pwpras; a llawer a bethau ereill, buddiol i'ch teyrnas: pan oeddynt brysuraf, ymddangosodd y diawl ei hun i chwareu ei bart;[2] ac wrth hyny gyrodd pawb o'i bleser i'w weddïau; felly hwn hefyd ar ei hynt hyd y byd; fe glywai rai yn son am fyned i droi o gwmpas yr eglwys i weled eu cariadau; a pheth a wnaeth y catffwl,[3] ond ymddangos i'r ynfydion yn ei lun ei hun gartref: ac er maint fu eu dychryn, eto pan gawsant eu cof, rhoisant ddiofryd oferedd[4] ond hyny: lle ni buasai raid iddo ond ymrithio ar lun rhyw fudrogod diffaith, fo'u tybiasent eu hunain yn rhwym i gymmeryd y rhai hyny; ac yna gallasai yr ellyll brwnt fod yn wr y ty gyda'r ddwyliw,[5] ac yntau wedi gwneyd y briodas. Ac dyma un arall,' ebr ef, 'aeth nos Ystwyll ddiweddaf i ymweled â dwy ferch ieuanc yng Nghymru, oedd yn troi'r crysau;[6] ac yn lle denu'r genethod i faswedd, yn rhith llanc glandeg, myned ag elor i sobreiddio un; a myned â thrwst rhyfel at y llall mewn corwynt uffernol, i'w gyru o'i chof ym mhellach nag o'r blaen; ac ni buasai raid. Ond nid hyn mo'r cwbl; eithr wedi iddo fyned i'r llances, a'i

  1. Y Dr. Ffaustus neu Ffaust ydoedd Sion Cent yr Almaen. Yr oedd yn ei flodau yn nechreu yr 16fed ganrif; cyfrifir ef yn enwog ei wyhodaeth a'i ymarfer o'r gelfyddyd ddu; ac adroddir aneirif o chwedlau am ei orchestion goruchanianol, y rhai a gyflawnid ganddo drwy ei gynghrair â'r ellyll Mephistopheles; yn y cyffelyb fodd ag y tadogir llawer o weithredoedd cyfunrhyw ar y Dr. Cent yng Nghymru. Ar y traddodiadau hyn y syfaenodd Goethe ei gerdd nodedig a elwir Faust
  2. Ei ran.
  3. 'Catffwl' (o cat a ffwl)—cetyn neu ddarn o ffwl; cryn ffwl; ffwleyn, cuall, hurthgen, folyn, hurtyn.
    Taw a'th swn, ddigywilydd
    gatffwl.—Thomas Edwards.
  4. 'Rhoi diofryd oferedd'=ymwrthod ar lw ag oferedd; ymddiofrydu ar ymwrthod ag oferedd; penderfyuu ymwrthod ag oferedd.
  5. Y ddwy blaid.
  6. Cyfeiriad at arferion ofergoelus rhai merchetach ynfyd gynt (ac ambell ffolcen hyd heddyw) i geisio cael gwybod pwy a fyddai eu gwŷr. Byddai olrhain yr holl ddefodau gwarthus cyssylltedig â'r ofergoelion hyn, yn gofyn llawer mwy o le nag a ellir ei hebgor yn y gwaith hwn. Am yr ofergoel o droi o gylch yr Eglwys, gweler y Brython, ii. 120.