Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thaflu a'i phoeni yn dost, gyrwyd am rai o'n gelynion dysgedig ni, i weddïo drosti hi, ac i'w fwrw ef allan; yn lle ei themtio hi i anobeithio, a cheisio ennill rhai o'r pregethwyr, myned i bregethu iddynt, a dadguddio dirgelion eich teyrnas chwi; ac felly yn lle rhwystro, helpu eu hiechydwriaeth.' Ar y gair Iechydwriaeth, gwelwn rai yn dychlamu yn dân byw o gynddaredd. Teg pob chwedl heb wrthwyneb,' ebr y dieflyn: 'gobeithio na ad Luciffer i'r un o hil domlyd Adda ymgystadlu â mi sy'n angel, llawer uwch fy rhyw a'm bonedd.' 'Hai,' ebr Luciffer, 'bid sicr iddo ei gosp: ond, Syre, atebwch i'r achwynion yma, yn brysur ac yn eglur; neu, myn Distryw diobaith, mi wnaf'—'Mi ddygais yma,' ebr yntau, 'lawer enaid er pan fu Satan yng Ngardd Eden, ac a ddylwn ddeall fy nhrad yn well na'r cyhuddwr newydd yma.'—'Gwaed uffernol bentewyn!' ebr Luciffer, 'oni pherais i chwi ateb yn brysur ac yn eglur?' 'Trwy eich gorchymmyn,' ebr y dieflyn, 'bûm ganwaith yn pregethu, ac yn gwahardd i rai amryw o'r ffyrdd sy'n arwain i'ch terfynau chwi, ac eto yn ddystaw, â'r un anadl, hyd ryw goeglwybr arall yn eu dwyn yma yn ddigon diogel: fel y gwnaethym wrth bregethu yn ddiweddar yn yr Ellmyn,[1] ac yn un o Ynysoedd Fferoe,[2] ac amryw fanau ereill. Felly drwy fy mhregethiad i y daeth llawer o goelion y Papistiaid, a'r hen chwedlau, gyntaf i'r byd, a'r cwbl tan rith rhyw ddaioni. Canys pwy fyth a lwnc fach heb ddim abwyd? Pwy erioed a ga'dd goel i ystori, oni byddai ryw fesur o wir yn gymmysg â'r celwydd, neu beth rhith daioni i gysgodi'r drwg? Felly, os caf finnau wrth bregethu, ym mysg cant o gynghorion cywir a da, wthio un o'm heiddo fy hun, mi wnaf â'r un hwnw, trwy amryfusedd neu goelgrefydd, fwy lles i chwi nag a wnel y lleill i gyd fyth i'ch erbyn.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'gan eich bod cystal yn eich pulpud, yr wyf yn dy orchymmyn tros saith mlynedd i safn un o bregethwyr yr Ysgubor, a ddywed y peth a ddêl gyntaf i'w fochau; yno cei dithau le i roddi gair i mewn weithiau at dy bwrpas dy hun.'

Yr oedd llawer o ddiawliaid ac o ddamniaid ychwaneg yn gwau fel mellt trwy eu gilydd o amgylch yr orsedd echryslawn, i gyfrif ac i ail dderbyn swyddau. Ond yn sydyn ddiarwybod,

  1. Gwel t. 44, n. 4.
  2. Ynysoedd Fferoe,' Ffaroe, neu Ffarverne, sydd haid o ynysoedd perthynol i Denmarc, yn gorwedd ym Môr y Gogledd, rhwng Norway ac Ynysoedd Shetland.