Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddangosodd y mwynglawdd cyntaf i gael arian; ac byth er hyny yr wyf yn cael fy moli a'm haddoli yn fwy na Duw; a dynion yn rhoi eu poen a'u perygl, eu holl fryd, eu hoffder, a'u hyder arnaf fi: ie, nid oes neb yn esmwyth, eisieu cael ychwaneg o'm ffafr i; a pha mwyaf a gaffont, pellaf fyth oddi wrth orphwysdra, nes dyfod o'r diwedd, tan geisio esmwythyd, yma i wlad y poenau tragwyddol. Pa sawl cybydd henffel[1] a ddenais i yma, hyd lwybrau tostach nag sy'n arwain i deyrnas yr hapusrwydd! Os ffair, os marchnad, os sessiwn, os 'lecsiwn, os rhyw ymgyfhwrdd arall, pwy amlach ei ddeiliaid, pwy fwy ei allu a'i awdurdod na myfi? tyngu, rhegu, ymladd, ymgyfreithio, dyfeisio, a thwyllo, ymgurio, ymgribinio, lladd a lledrata, tori'r Sul, anudoniaeth, angharedigrwydd, a pha nod du arall, heb law y rhai hyn, sy'n marcio dynion at gorlan Luciffer, nad oes genyf fi law yn ei roi? Am hyny y galwyd fi "Gwreiddyn pob drwg." Am hyny, os gwel eich mawrhydi yn dda, myfi a af,' ebr ef; ac a eisteddodd.

Yna cododd Apolyon. Nis gwn i,' ebr hwnw, 'beth a'u dwg hwy yma sicrach na'r peth a'ch dug chwithau yma, sef Balchder; os caiff hon blanu ei phawl syth ynddynt, a'u chwyddo, nid rhaid unon yr ymostyngant i godi'r groes, nac i fyned trwy'r porth cyfyng. Myfi a af,' ebr ef, 'gyda'ch merch Balchder, ac a yraf y Cymry, tan ucheldremio ar wychder y Seison, a'r Seison tan ddynwared sioncrwydd y Ffrancod, i syrthio yma cyn y gwypont amcan pa le bônt.'

Yn nesaf cododd Asmodai, diawl yr Anlladrwydd. 'Nid anhysbys i chwi, frenin galluocaf y Dyfnder,' ebr ef, 'na chwithau, dywysogion gwlad anobaith, faint a lenwais i o gilfachau uffern, trwy drythyllwch a maswedd: beth am yr amser y cynneuais i'r fath fflam o drachwant yn yr holl fyd, oni orfu gyru'r diluw i lanhau'r ddaiar oddi wrthynt, ac i'w hysgubo hwy oll atom ni i'r tân anniffoddadwy? Beth am Sodoma a Gomorra, dinasoedd teg a hyfryd, a losgais i â thrythyllwch, nes i gafod o uffern ennyn yn eu trachwantau uffernol, a'u curo hwy yma yn fyw i losgi yn oes oesoedd? A pheth am fyddin fawr yr Assyriaid,[2] a laddwyd oll mewn unnos o'm hachos i? Sara[3] a siomais i am saith o wyr; a Solomon, y doethaf o ddynion, a llawer mil o freninoedd ereill,

  1. Hen a ffel; hen a chyfrwys.
  2. Gwel 2 Bren. xix. 35.
  3. 'Sara'=merch Raguel, a gwraig Tobias. Gwel Tobit, vi. vii.