Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a welliais[1] i â merched. Am hyny,' ebr ef, 'gollyngwch fi â'r pechod melus yma, ac mi a ennynaf y wreichionen uffernol yno mor gyffredin, hyd onid el yn un a'r fflam aniffoddadwy hon canys odid o un a ddychwel fyth oddi ar fy ol i, i gym- meryd gafael yn llwybrau bywyd.' Ar hyn fe eisteddodd.

Yna cododd Belphegor, penaeth y Diogi a'r Seguryd. 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syrthni a'r Diogi, mawr fy ngallu ar fyrdd o bob oed a gradd o ddynion; myfi yw'r merllyn[2] mud,[3] lle mag sil pob drygau, lle ceula sorod pob pydredd a llysnafedd dinystriol. Beth a delit ti, Asmodai, na chwithau'r prif Ddrygau colledig ereill, hebof fi, sy'n cadw'r ffenestri yn agored i chwi, heb ddim gwyliadwriaeth, modd y galloch chwi fyned i mewn i'r dyn, i'w lygaid, i'w glust, i'w safn, ac i bob twll arall arno, pan fynoch. Myfi a af, ac a'u treiglaf hwy oll i chwi tros y dibyn trwy eu cwsg.'

Yna cododd Satan, diawl yr Hug,[4] oedd nesaf i Luciffer ar ei law chwith; ac wedi troi gwep hyllgrech at y brenin: 'Afraid i mi,' ebr ef, 'ysbysu fy ngweithredoedd iti, archangel colledig, nac i chwithau, dywysogion duon y Distryw: oblegid y dyrnod cyntaf erioed ar ddyn, myfi a'i tarawodd; a dyrnod nerthol ydoedd, i bara yn farwol o ddechreu'r byd i'w ddiwedd. Ai tybied nad allwn i, a anrheithiais yr holl fyd, roi yr awran gynghor a wasanaethai am un ynysig fechan? ac onid allwn i, a siomais Efa ym Mharadwys, orchfygu Ann ym Mhrydain? Os tâl ddim ddichell naturiol, a phrawf gwastadol, er's pummil o flynyddoedd, fy nghynghor i ichwi drwsio eich merch Rhag- rith i dwyllo Prydain a'i brenines: ni feddwch chwi ferch yn y byd mor wasanaethgar i chwi a hòno; mae hi yn lletach ei hawdurdod, ac yn amlach ei deiliaid, na'ch holl ferched ereill. Onid trwyddi hi y siomais i y ferch gyntaf? ac byth er hyny hi arosodd ac a gynnyddodd yn ddirfawr ar y ddaiar. Ac yr awron, nid yw'r byd oll fawr ond un Rhagrith i gyd trosto. Ac oni bai gywreindeb Rhagrith, pa fodd y cai yr un o honom ddim masnach mewn un cwr o'r byd? O blegid pe gwelent bechod yn ei liw a than ei enw ei hun, pa ddyn byth a'i cyffyrddai? Byddai haws ganddo gofleidio diawl yn ei lun

  1. Gwel t. 33, n. 1.
  2. Merllyn' (marw-llyn)-llyn o ddwr llonydd: merbwll; llynwyu.
  3. 'Mudd,' arg. 1703, 1755, 1759, 1768, 1774; 'mud,' arg. 1767.
  4. Hud, twyll, hoced; gorchudd i dwyllo. Gwel Iob, ix. 24; xxiv. 15.