Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tithau, Belphegor y Diogi, pwy, gan gywilydd a gwarth, a'th groesawai fyth fynyd, oni bai Rhagrith, sy'n cuddio dy wrthuni tan enw afiechyd oddi mewn, neu fod yn bwrpaswr da, neu tan rith dibrisio golud, a'r cyffelyb. Hithau fy anwyl ferch Rhagrith, beth a dal neu a dalasai hi erioed, er cywreinied gwniadyddes, a glewed yw, oni bai eich help chwi, fy mrawd hynaf Belsebub, tywysog mawr y Pensyfrdandod: pe gadawai hwn lonydd a hamdden i bobl i ddwys ystyried natur pethau a'u gwahaniaeth, pa dro byddent yn ysbio tyllau yn nyblygion eurwisg Rhagrith, ac yn gweled y bachau trwy yr abwyd? Pa wr yn ei gof a holiai deganau a phleserau darfodedig, swrffedig,[1] ffol, a gwaradwyddus, a'u dewis o flaen heddwch cydwybod, a hyfrydwch tragywyddoldeb ogoneddus? Pwy a rusiai[2] oddef ei ferthyru am ei ffydd, tros awr neu ddiwrnod, neu ei gystuddio ddeugain neu drigain mlynedd, ped ystyriai fod ei gymmydogion yma yn dyoddef mewn awr fwy nag all ef oddef ar y ddaiar fyth? Nid yw tobacco yntau ddim heb Arian, nac Arian heb Falchder, na Balchder ond egwan heb Anlladrwydd, nac Anlladrwydd ddim heb Ddiogi, na Diogi heb Ragrith, na Rhagrith heb Anystyriaeth. Weithian,' ebr Luciffer, ac a gododd ei garnau cythreulig ar ei garnewinedd,[3] 'i draethu fy meddwl innau fy hunan; er däed y rhai hyn oll, mae genyf fi gyfaill sy well at yr elynes Prydain na'r cwbl.'

Yma gwelwn yr holl brif gythreuliaid â'u cegau tra erchyll yn egored ar Luciffer, i ddysgwyl beth bosibl a allai hwn fod; a minnau cyn rhyhwyred genyf glywed a hwythau.

'Un,' ebr Luciffer, 'y bûm i yn rhy hir heb ystyried ei haeddiant hi, fel dithau Satan gynt wrth demtio Iob yn troi'r tu hagr fel ffwl. Hon fy nghares yr wyf yn awr yn ei hordeinio yn rhaglaw ar holl achosion fy llywodraeth ddaiarol yn nesaf ataf fy hun; hi a elwir Hawddfyd: hon a ddamniodd fwy o ddynion na chwi i gyd; ac ychydig a dalech chwi oll hebddi hi; canys mewn rhyfel, neu berygl, neu newyn, neu glefyd, pwy a brisia mewn na thobacco, nac arian, na hoewdra balchder, nac a feiddia feddwl am groesawu nac anlladrwydd na diogi? Ac mae dynion yn y cyfyngoedd hyny yn rhy effro

  1. Surfeited: alarllyd; wedi alaru neu ddiflasu arno.
  2. Pwy a rusiai'=pwy a betrusai; pwy a ofnai.
  3. Blaen yr ewinedd; rhanau blaenaf y carn. Gweler Geiriadur y Dr. Puw dan y gair.