Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gymmeryd eu pendifadu gan Ragrith nac Anystyriaeth chwaith; ni lefys[1] un o'r uffernol wybed y Syndod ddangos ei big ar un o'r ystormoedd hyn. Eithr Hawddfyd esmwythglyd yw eich mammaeth chwi oll: yn ei chysgod tawel, ac yn ei monwes hoewal[2] hi, y megir chwi oll, a phob pryfed uffernol

  1. Llafasu, neu llyfasu=beiddio, meiddio, anturio.
    Ni a welwn yn y byd hwn, na faidd ac na lefys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol,'—Dr. Dafis.
  2. 2 Hoewal= llonydd, tawel, digyffro, digynhwrf. Ystyr hoewal, fel enw cadarn, yn ol Geiriadur y Dr. Puw, ydyw—Agitation of water; the whirling of a stream; an eddy; the waves formed by anything thrown into the water. Ac yn ol Lewis Morys—'The stream of the sea or a river, Pa fodd bynag, yng Ngheredigion, a manau ereill, defnyddir y gair am ddwfr llonydd neu ddigyffro; llynwyn; llyn neu gronfa mewn afon, a'r cyffelyb. A'r ystyr hw y cytuna dosbeniad y Dr. DafisPars fluminis tardiùs transiens;' a thebygol mai yn yr un golygiad yr arferir ef gan y beirdd canlynol:

    Od ä i'r hoewal adar hwyaid.—L. G. Cothi.
    Hely'r wyf hoewal yr afon.—Meredydd ab Rhys
    Edwyn llaw dyn edu lle dêl, A yr hwyaid i'r hoewel.—H. ab D. ab Ieuan ab Rhys.
    Hywel, hoewal pob eirchiad.—Llywarch ab Llywelyn.
    Ardal dwyn hoewal Dinmilwy.—Llyw. ab Llywelyn.
    Gwâr Hywel, hoewal cyfeddwch.—Llyw. ab Llywelyn. Heol dyfnion afonydd,
    Hoewal o fewn heli fydd.—I. ab Tudur Penllyn
    Ail i'r âr ael Eryri,
    Cyfartal hoewal a hi—Gronwy Owain.

    Ond yn yr enghreifftiau sy'n canlyn, gellir barnu ei fod yn arwyddo canol ffrwd, brwynen neu frydle afon; yn unol ag eglurhâd L. Morys, ac â'r ystyr y dywed Dafis fod rhai yn ei roddi iddo—Alii volunt esse alreum fluminis et aquam festinantem.

    Cynt wyf Ieuan, lle'r ä gan—nyn,
    Nag awel o wynt i'r gwiail yn,—
    Ac na hoewal llif trwy ganol llyn.—L. G. Cothi.

    F'al yr awel ei helynt,
    Anhawdd dal hoewal ei hynt.—M. ab H, Lewys.

    Ac ymddengys mai yr un peth a olygir wrtho yn yr ymadrodd hwn, eiddo un o'r gogynfeirdd:

    Ef a wnai—
    Hwrdd aflwfr mal hir—ddwfr hoewal.— Cynddelw.

    Gwraidd hoewal, medd Puw ydyw hoew—al; ond tebycach ei fod yn tarddu o hoe a gwâl. Hoe yw y gair cyffredin yn nhafodiaith Dyfed am orphwysfa, seibiant, neu lonyddwch: ac felly ystyr llythyrenol hoewal yw, y wâl lle mae'r dwfr yn cymmeryd hoe; y gwely lle mae'r dwfr yn gorphwys; neu gasgliad o ddwfr llonydd.

    Hoewal llong= ol long ar y dwfr.