Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ereill yn y Gydwybod, a ddaw i gnoi eu perchen yma byth heb orphwys. Tra bydder esmwyth, nid oes son ond am ryw ddigrifwch, gwleddoedd, bargenion, achan, ystorïau, newyddion, a'r cyffelyb; ni sonir am Dduw, oddi eithr mewn ofer lyfon a rhegfëydd; lle mae'r tlawd a'r claf, &c., a Duw yn ei eneu ac yn ei galon bob mynyd. Ewch chwithau eich saith yng nghynffon hon, a chedwch bawb yn ei hun a'i heddwch, mewn llwyddiant ac esmwythyd, a llawnder a diofalwch; ac yno cewch weled y tlawd gonest yn myned yn garl[1] trawsfalch anhywaith, pan gyntaf yr yfo o hudol gwpan Hawddfyd; cewch weled y llafurwr diwyd yn troi yn llefarwr diofal ysmala; a phob peth arall wrth eich bodd. O blegid Hawddfyd hyfryd yw cais a chariad pawb; hithau ni chlyw gynghor, nid ofna gerydd; os da, nid edwyn; os drwg, hi a'i meithrin. Hon yw'r brif brofedigaeth; y dyn a ymgadwo rhag ei swynion mwynion hi, gellwch daflu eich cap iddo; ffarwel i ni byth am gwmni hwnw. Hawddfyd, ynte, yw fy rhaglaw ddaiarol i; dilynwch hon i Brydain, ac ufuddhëwch iddi, megys i'n breninol oruchelder ni ein hunain.'

Ar hyn, gwyntiwyd y follt fawr, a tharawyd Luciffer a'i ben-cynghoriaid i sugnedd Uffern Eithaf; ac och fyth erwined oedd weled ceg Annwn yn ymagor i'w derbyn! Wel,' eb yr Angel, 'weithian ni a ddychwelwn: ond ni welaist ti eto ddim wrth y cwbl sydd o fewn cyffiniau Distryw; a phe gwelsit y cwbl, nid yw hyny eto ddim wrth sydd o drueni annhraethawl yn Annwn; canys nid yw bosibl bwrw amcan ar y byd sy'n Uffern Eithaf.' A chyda'r gair fe a'm cipiodd yr Eryr nefol fi i entrych y Fagddu felltigedig, ffordd nas gwelswn, lle ces o'r llys hyd holl ffurfafen y Distryw duboeth, a holl dir anghof, hyd at gaerau'r Ddinas Ddienydd, lawn olwg ar yr anfad anghenfil o Gawres y gwelswn ei thraed hi o'r blaen. 'Ac nis meddaf mo'r geiriau i ddadgan ei moddion hi: ond mi fedraf ddywedyd iti mai cawres dri-wynebog oedd hi: un wyneb tra ysgeler at y nefoedd, yn cyfarth, yn chwyrnu, ac yn chwydu ffieidd-dra melltigedig tuag at Brenin nefol: wyneb arall teg tua'r Ddaiar, i ddenu dynion i aros yn ei chysgod; a'r wyneb anaele arall at Annwn, i'w poeni byth bythoedd. Mae hi yn fwy na'r ddaiar oll, ac yn cynnyddu eto beunydd, ac yn gan erchyllach na holl uffern. Hi a

  1. Cerlyn, cybydd, mab y crinwas.