Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llwyd, o Hafod Lwyfog, ym mhlwyf Bedd Gelert, swydd Gaernarfon. Bu iddynt bump o blant; tri mab a dwy ferch. Yr oedd y mab hynaf, Gwilym, yn beriglor Llanaber, wrth Abermaw: iddo ef y disgynodd tiriogaeth y Lasynys; a bu ym meddiant y teulu nes ei gwerthu gan ei wyr, Ioan Wynn Puw. Y mab ieuaf, Edward, ydoedd beriglor Penmorfa a Dolbenmaen, yn Eifionydd, o'r flwyddyn 1759 hyd ei farwolaeth yn 1767. Wyr Edward Wynn, yn llinach ei fab Elis, periglor Llanferras, yn swydd Dinbych, yw y Parch. Ioan Wynn, ebrwyad presennol Llandrillo yn Edeyrnion.

Bu farw Elis Wynn ym mis Gorphenaf, 1734, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar y 17fed o'r mis hwnw, o dan fwrdd y Cymmundeb, yn Eglwys Llanfair, heb gymmaint a llinell ar na maen na mynor i nodi'r fan lle gorphwysa gweddillion marwol yr athrylithiog Fardd Cwsg, cymmwynaswr ei genedl, ac addurn llenoriaeth ei wlad.[1] Yn llyfr gwyn Eglwys Llanfair ceir y cofnod canlynol o'i gladdedigaeth —Elizæus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiæ, sepultus est 17mo die Julii 1734.

Yn 1701, efe a gyhoeddodd gyfieithad o'r Rule and Exercises of Holy Living, gan yr Esgob Ieremi Taylor, dan yr enw Rheol Buchedd Sanctaidd; ac a'i cyflwynodd i'r Esgob Humphreys. Rhydd gyfieithad o'r gwaith Seisonig ydyw; a gellir ei restru yn ddiammheu ym mhlith y cyfieithion goreu yn yr iaith. Yn 1703, ymddangosodd Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn 1710, daeth allan o dan ei olygiad ef, argraffiad newydd a diwygiedig o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, mewn cyfrol unplyg, at wasanaeth yr eglwysi. Cymmerodd y gorchwyl hwn mewn llaw ar gais Esgobion Cymru ac Esgob Henffordd, gan y rhai y mae wedi ei gymmeradwyo a'i orchymmyn.[2]

Yn y flwyddyn 1755, casglodd a chyhoeddodd ei fab Edward, y pryd hwnw curad Llanaber, lyfr tra defnyddiol o'r

  1. Gwedi cael o'r cofnod hwn ei ysgrifenu, gosododd y Parch. Ioan Wynn, Llandrillo, ffenestr liwiedig hardd yn Eglwys Llanfair, er cof am ei hendaid clodwiw.
  2. Y mae ei 'Hysbysiad' i'r argraffiad dan sylw, yr hwn a gynnwys ynddo rai pethau na wyddir mo honynt yn gyffredin, wedi ei adargraffu yn gyflawn yn y Gwyliedydd, x. 275, ac yn y Traethodydd, vii. 322.