Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw Prif Addysg y Cristion, yn cynnwys, ym mhlith pethau ereill, Esboniad Byr ar y Catecism, o waith y Parchedig Mr. Elis Wynne o Lasynys, Person Llanfair;' ac yn attodedig i'r unrhyw gyfrol ceir amryw 'Hymnau a Charolau,' o waith yr un awdwr. Y mae yr Esboniad, o'i faint, yn waith rhagorol; ac y mae yr Emynau a'r Carolau yn meddu ar lawer o deilyngdod. Bu iddo hefyd droi amryw o'r Salmau ac o Emynau yr Eglwys ar fesur cerdd; a phrin y mae eisieu crybwyll fod ol dawn a chelfyddyd ar y rhai hyn, yn gystal ag ar bob peth arall a hanoedd o'i ysgrifell.

Hyn, hyd y gwyddys, yw'r cwbl a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau; ond dywedir iddo ysgrifenu gwaith arall, a elwid "Gweledigaeth y Nef:' eithr o blegid edliw o rywrai iddo nad oedd ei Weledigaethau blaenorol ond lledrad llên, ac nad oeddynt na mwy nallai na chyfieithad o waith yr Yspaenwr Cwevedo,'[1] efe a daflodd yr ysgrifen i'r tân mewn digllondeb. Y mae yn amlwg ddigon ei fod ef wedi bwriadu estyn Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn helaethach nag y maent; canys ar ragddalen y llyfr hwnw dywedir mai y 'Rhan Gyntaf' ydyw; a gelwir terfyn y gyfrol yn 'Ddiwedd y Rhan Gyntaf. Y mae yn resyn o'r mwyaf gael o lawysgrif y Weledigaeth hon ei dinystrio, ac i'r Bardd gymmeryd ei gythruddo i'r fath raddau gan feibion dirmygedig anghof, yn llinach Soil ysgeler;' canys yn y gwaith hwn y mae lle i dybied y cawsem weled yr awdwr yn myned rhagddo yn ei ffordd a'i drefn ei hun, heb neb o estron genedl yn arweinydd ac yn gynnorthwyrwr iddo.

Gorchestwaith Elis Wynn yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Y mae'r gwaith hwn wedi sefyll bob amser yn uchel iawn yng nghyfrif y Cymry; ac nid oes genym ond odid lyfr o'i faint, ond y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, wedi myned trwy gynnifer o argraffiadau yn ystod yr un amser. Y mae pawb y

  1. Francisco Gomez de Quevedo y Villegas a anwyd ym Madrid, yn yr Yspaen, yn 1580, ac a fu farw nid neppell o'r ddinas hono, yn 1645, yn 65 mlwydd oed. Ymddangosodd ei Sueños, neu Weledigaethau, y tro cyntaf, ym Madrid yn 1649; cyfieithwyd hwynt i'r Seisoneg gan Syr Roger L'Estrange yn 1668; ymddangosodd cyfieithad newydd gan Pineda yn 1734; ac un arall yn 1798. Cyfieithwyd hwynt hefyd i'r rhan fwyaf o ieithoedd ereili Ewrop. Yr un modd â'n cydwladwr ninnau, yr oedd Cwevedo yn brydydd yn gystal ag yn ysgrifenwr rhyddiaith.