Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae eu barn o werth, yn cyduno i'w ganmawl ac i ddadgan ei ragoroldeb; caniatëir fod ei iaith yn rymus ddigyffelyb; ac ystyrir ei ieithwedd yn gynllun teg i bawb ei ddilyn. Yr oedd Walters, y geirlyfrwr enwog, yn ei hofti tu hwnt i bob gwaith; a phwy yn y Dywysogaeth oedd gymhwysach i farnu am ei deilyngdod? Yn ei Draethawd godidog ar yr Iaith Gymraeg y mae yn llefaru am dano i'r ystyr yma:— Y mae cyfansoddiad gwreiddiol yn y Gymraeg, a elwir y Bardd Cwsg, yn cynnwys tair Gweledigaeth. Math ar ddychan ydyw, mewn rhan yn llythyrenol, ond gan mwyaf yn arallegol, lle у ffrewyllir Drygioni, Ynfydrwydd, a Gwagedd, yn gampus dros ben; tynir hwynt yn y lluniau mwyaf dychrynllyd (sef yw hyny, eu lluniau mwyaf priodol), ac arddangosir hwynt yn holl amrywiaeth alaethus Gwae. Yn y gwaith hwn y mae'r dynsodiadau mwyaf tarawiadol a phrydyddol, y darluniadau mwyaf bywiog ac ysbrydlawn, a'r ehediadau dychymmyg mwyaf ardderchog a geir yn unlle, pa un bynag ai mewn rhyddiaith ai mewn barddoniaeth. Nid yw Gweledigaethau Don Cwevedo mewn un modd i'w cystadlu â'r rhai hyn fel ag y canfyddir ac y cydnabyddir gan bwy bynag a'u cymharo â'u gilydd, bid hyny mor arwynebol ag y bo. Clywais am un â'i serch gymmaint ar Don Cwicsot fel y cymmerodd y drafferth i ddysgu yr Yspaeneg er mwyn cael yr hyfrydwch o ddarllen ei hoff awdwr yn yr iaith wreiddiol. Ni ryfeddwn i ddim pe dysgai llawer yr iaith Gymraeg, modd y gallont ddarllen y Bardd Cwsg, pe gallent ond unwaith amgyffred ei ragoroldeb.'

Y mae y Dr. Owain Puw wedi ei ddyfynu lawer deg o weithiau yn ei Eiriadur. Y fath oedd syniadau uchel Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog, am ei odidogrwydd, fel y bu iddo ymosod ar ei gyfieithu i'r Seisoneg.[1] Y mae rhai wedi myned mor bell a chymharu yr awdwr â Dante, a'i gynnyrchion â'r Divina Commedia. Ac y mae yn hyfryd canfod nad yw y Bardd Cwsg wedi colli ond ychydig, os dim, o'i gymmeriad yn y Dywysogaeth hyd yn oed yn y dyddiau dirywiedig,

  1. Yn 1860 ymddangosodd cyfieithad o hono i'r Seisoneg gan Mr. Geo. Borrow. Y mae hwn yn gyfieithad gweddol dda, ag ystyried mai Sais cynnwynol a'i gwnaeth; er bod cyfieithydd mewn rhai manau wedi camddeall meddwl yr awdwr yn hollol. Ymddengys ei fod wedi cyfieithu o argraffiad pur anghywir. Yn ei Ragymadrodd dywed wrthym mai brodor o Swydd Dinbych oedd Elis Wynn, ac nas gwyddys braidd ddim ychwanego hanes ei fywyd!