Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahan-farn hyn. Nid oes nemawr o fisoedd wedi llithro heibio er pan yr ymddangosodd y feirniadaeth ganlynol arno yn y Traethawd ar Swyddogaeth Burn a Darfelydd[1]:— Fe allai mai y Bardd Cwsg yw y cyfansoddiad mwyaf hynod am gymhlethiant Barn fanwl a Darfelydd grymus a hedegog, o'r holl weithiau sydd ym meddiant ein gwlad. Barddoniaeth lawn o dân awenyddol ydyw, mewn gwisg rydd ddigynghanedd. Beth? Barddoniaeth heb gynghanedd? Ië, ddarllenydd, a barddoniaeth ardderchog hefyd! Y mae yn y Bardd Cwsg gryn lawer o anian, ond ei bod yn ymwisgo mewn dull ffugrol, yr hyn, ar yr un pryd, sydd yn peri fod y gwaith yn fwy barddonol. Er fod cryn lawer o ddiffyg yn chwaeth cyfansoddiad, eto y mae yr iaith yn anghymharol o gref, fel nad oes dim yn y Gymraeg yn dyfod yn agos iddo yn y peth hwn. Nid yw bob amser yn hollol gywir yn ei ramadeg, y mae yn wir; ond gwna iawn am hyn yn ei nerth, a'i ieithwedd, yr hon sy mor drwyadl Gymroaidd. Y mae yn tynu llun personau, ac yn corffoli pechodau a llygredigaethau, gan eu harddangos yn eu gwrthuni, mewn dull hynod o argraffawl. Mae y Bardd Cwsg yn un o'r llyfrau ag y byddai yn ddymunol ei fod ym mhob teulu, ac, yn fynych, yn llaw pob dyn ieuanc, ac yn arbenig pob prydydd ieuanc yn y Dywysogaeth.'

Ond eto er hyny, awgrymir gan ambell un, er godidoced y gwaith, ac er ucheled y molawd a roddir iddo, fod yr awdwr yn ddyledus am ei holl feddyliau i Cwevedo; a chyhuddir ef yn gyffredin o ddiffyg chwaeth, ac weithiau o anweddusrwydd ymadrodd.

Gyda golwg ar y cyhuddiad o anwreiddioldeb, y mae yn eithaf amlwg fod Elis Wynn yn gydnabyddus â gwaith Don Cwevedo, a'i fod yn ddyledus iddo am ei gynllun, ac am lawer o'i ddelfrydau: y mae yn ei efelychu yn fynych; ac yn achlysurol, wedi cyfieithu ambell frawddeg o hono. Y mae rhediad У ddau waith yn gryn debyg; ac y mae llawer o'u cymmeriadau yn gwbl yr un.

Ond er hyn oll, y mae'r gwaith Cymreig yn meddu ar nodwedd wahanredol o'i eiddo ei hun, ac yn arddangos holl deithi cyfansoddiad gwreiddiol. Nid

  1. Gwaith y Parch. W. Jones, Periglor Llanenddwyn, Meirion. (Rhuthyn, 1853, 8plyg.)