Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes dim tebyg i gyfieithad neu efelychiad o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y mae yn gwbl Gymreig ym mhob ystyr; ac nis gallasid byth feddwl wrth ei ddarllen fod dim o gyffelyb ansawdd wedi ei gynnyrchu mewn un wlad arall.

O ran chwaeth, lledneisrwydd, a naturioldeb, y mae'r Cymro yn sefyll ar lawer uwch tir na'r Yspaenwr; a gellir honi yn ddibetrus ei fod yn tra rhagori arno ym mhob peth ond mewn gwreiddioldeb. Try’r fantol o blaid y naill fel goruch-adeiladydd, ac o blaid y llall fel gosodwr y sylfaen. Darllenodd y Bardd Cwsg Weledigaethau ei ragflaenor; a thra yr oedd yr argraff o honynt yn rymus ar ei gof, eisteddodd i lawr, ac ysgrifenodd ei Weledigaethau ei hun. Ni fyfyriodd mo'i awdwr er mwyn ei ddynwared, ac ni phetrusodd wneuthur defnydd o hono, pa bryd bynag y byddai hyny yn ateb ei ddyben, ac yn fuddiol i'w amcan. Ysbrydolwyd ef at y gorchwyl wrth ddarllen gweledydd yr Yspaen; ac yng ngrym yr ysbrydoliaeth hòno efe a gynnyrchodd ei waith anfarwol ei hun.

Dichon nas gellir, ar fyr eiriau, ddangos dyled ein cydwladwr i'r estronwr, yn well na thrwy ei chymharu â dyled Virgil i Homer. Y mae rhwymedigaethau y ddau, i raddau helaeth, yn ogymmath ac yn ogymmaint. Os gwreiddiol yr Aeneis, gwreiddiol hefyd y Gweledigaethau dan sylw; ond os llenysbeiliwr a benthyciwr yw y Bardd Cwsg, llenysbeiliwr a benthyciwr hefyd yw Bardd Mantua.

Ond ni ddylid anghofio crybwyll fod yn y Gymraeg waith gwreiddiol, wedi ei ysgrifenu ym mhell cyn geni Cwevedo, tra chyffelyb ei ansawdd i'r Bardd Cwsg, a elwir Breuddwyd Pawl Abostol.[1] yr hwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Ysgriflyfrau Iolo Morganwg (t. 190). Y mae'r ddau, mewn llawer o bethau, cyn debyced i'w gilydd, fel y gallai un wrth ddarllen y Breuddwyd, feddwl, braidd, mai darllen un o'r Gweledigaethau y mae; o ran iaith, y maent, o fewn i ddim, yn gyfunrhyw; y mae rhai o eiriau arbenicaf y Bardd Cwsg yn dygwydd yn y cyfansoddiad hwn; ac y mae sail gref i farnu

  1. Cymharer yr Awdlau i Dduw, o waith Gruffydd ab yr Ynad Coch, yn y Myvyrian Archaiology, i. 400, 516; ac hefyd ranau o'r Marchog Crwydrad (Tremadog, 1864, 8plyg).