Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddwyn ym mlaen ddiwygiad yn eu plith. Ymddengys mai un annibynol iawn ydoedd : yr oedd y gwr boneddig, y gwr eglwysig, a'r gwr wrth gerdd, wedi ymgyfarfod ynddo; yr oedd yn ddigon gwrol i ddannod beiau, ac i ddadlenu twyll a hoced, gyda llymder a diystyrwch, heb barchu wyneb ungwr dan hanl. Diau fod ymddangosiad ei lyfr yn frath cleddyf i laweroedd; ond pwy a glywai ar ei galon wrthwynebu'r bardd diweniaith a'r offeiriad glanfucheddol yn yr amser hwnw? Oes lawn o bob ofergoel, anwybodaeth, ac anfoesoldeb, oedd yr oes yr oedd efe yn byw ynddi; ymdrechodd yntau yn egnïol i chwalu'r tywyllwch oedd yn gorchuddio'r Dywysogaeth, ac i yru ar ffo y cymylau duon oedd yn crogi uwch ben ei thrigolion; dynoethodd ormes a rhagrith, gwagedd a ffolineb y byd isod hwn, a hudoliaethau aneirif merched Belial yn y Ddinas Ddienydd; ac annogodd bawb i gymmeryd Buchedd Santaidd yn Rheol i'w tywys yn ddiogel i Ddinas IMMANUEL.

Gwasanaethodd ei genedlaeth gyda ffyddlondeb mawr; gorphenodd ei yrfa; ac erys ei goffadwriaeth yn glodfawr yng Nghymru, tra byddo tafod yn medru parablu Cymraeg ar hyd llethri ei chribog fynyddoedd hi.